Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deuddeg

deuddeg

Bydd Cymru yn gobeithio curo Samoa am y tro cynta mewn deuddeg mlynedd yn Stadiwm y Mileniwm yfory.

Addawai freintiau i'r deuddeg, breintiau'r Ysbryd, gan eu bod yn cyfranogi o'i waith yn y palingenesia (Mathew xix.

Clywed y môr yn ei herio ar y gwynt o'r bar a mynd yn bwt o gogydd deuddeg oed ar long hwyliau ei dad.

Ni raid i mi ofyn pryd ddiwethaf y gwelsoch chi blant deuddeg oed yn codi cyn y wawr i wisgo amdanynt yn y tywyllwch er mwyn mynd i weithio poncen chwarel, achos drwy drugaredd ni welsoch hynny erioed.

Wel, cyn deuddeg o'r gloch, dyma saethu yn y gwaith a'r dynion yn mynd i fwyta.

Rheol rhif un wrth ysgrifennu nofel yw creu cymeriadau cyflawn sy'n taro deuddeg.

Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.' Atebodd yntau hwy, 'Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.' Meddent wrtho, 'A ydym i fynd i brynu gwerth ugain punt o fara a'i roi iddynt i'w fwyta?' Yr Arglwydd Iesu, yn ôl adroddiad Ioan, a gymerodd y cam cyntaf yn y sefyllfa ddyrys trwy ofyn i Philip: 'Lle y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?' Amcangyfrifodd Philip, y Swyddog Bwyd, debyg, ymhlith y deuddeg, y byddai eisiau o leiaf werth ugain punt o fara i roddi tamaid i bob un.

Dewisodd hefyd ben-cantor a deuddeg o ganoniaid.

Yr oedd Angharad yn un o'r pedwar plentyn ar hugain a anwyd i wraig Risiart ab Einion o Fuellt, deuddeg mab a deuddeg merch a phob un ohonynt gydag un llygad du ac un llygad glas.

Ydych chi rhwng deuddeg a deunaw oed?

Bydd pawb yn ôl ymhen deuddeg mis a dyna wir lwyddiant y gystadleuaeth.

Gwnaed cynnydd ardderchog wrth ddatblygu safleoedd newyddion a safleoedd arlein eraill ar gyfer BBC Cymru dros y deuddeg mis diwethaf, ac mae BBC Cymru'r Byd, ‘papur newydd' Cymraeg arlein dyddiol a lansiwyd ar 1 Fawrth 2000 eisoes yn denu ymateb gan siaradwyr Cymraeg ledled y byd.

Ac yn wir i chi, fel yr oedd cloc yr eglwys yn taro deuddeg, i lawr â'r mul, a diniwedirwydd a chredo'r plant mewn grym ewyllys da wedi ei atgyfnerthu a'i gadw, wel am flwyddyn arall o leiaf.

Yn ychwanegol, rhoddwyd deuddeg sesiwn hyfforddi mewn Pencadlys Heddlu gan aelodau o'r grŵp.

Nid yw'r Cyngor wedi sylwi ar unrhyw gynnydd amlwg yn y gynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig ar raglenni'r BBC dros y deuddeg mis diwethaf.

Deuddeg gwaith glo yn cau yn Ne Cymru.

Bu'r flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi'r Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.

Gellid cyfeirio, fel y clywais fy nghydathro Trefor Evans yn gwneud, at yr enwau Macabeaidd ymhlith y Deuddeg Disgybl - y mae mwy nag un Simon a mwy nag un Jwdas - ac ychwanegu fod enwau Groeg hefyd yn eu plith (sef Andreas a Philip).

Er ei bod yn un gref, nid yw'r gwaith cymysgu yn cweit wedi daro deuddeg.

Os am gdaw'ch bys ar byls adloniant cyfoes Cymraeg a mwynhau cystadleuthau'r W^yl, Mabirocion amdani!Yn ôl y trefnwyr y mae'n amlwg bod cystadleuthau Eisteddfod Dyffryn Nantlle ac Arfon wedi taro deuddeg gyda chystadlu ar bob un.

I gyflawni'r gwaith mor fanwl ag y gwnaeth William Hobley gyda'i chwe cyfrol ar hanes Methodistiaeth Arfon, dywedir y byddai angen deuddeg cyfrol ar gyfer llþn ac Eifionydd.

Câi ddigon o ddþr i'w yfed, a deuddeg owns o fara brown, yn sgwariau bychain, deirgwaith y dydd.

Fe'i gwelwyd yng nghyffiniau Tyddyn Bach yn ystod y bore a thystiai Ann Jones, Fferm Trefadog, iddi ei weld yn pori'i wartheg ar y lôn bost tua deuddeg o'r gloch.

Arolwg yn dangos fod un o bob deuddeg o blant ysgolion cynradd Prydain yn dioddef o afiechyd a diffygion lluniaeth.

Mae Maher, hefyd, wedi ei gynnwys ymhlith y deuddeg.

Writer yn taro deuddeg yn syth.

Cyfrifodd Euler fod angen o leiaf deuddeg pentagon er mwyn cau'r adeiladwaith a gwneud sfferoid.

Er bod yma ymgais i gyflwyno cerddoriaeth sydd fymryn yn galetach na'r arfer, nid grwp roc mo Chouchen, ac oherwydd hynny nid yw'r traciau hyn yn taro deuddeg.

Aflwyddiannus byddai'r flwyddyn honno i'r sawl welai ysgyfarnog neu bioden yn croesi eu llwybr a hynny cyn deuddeg o'r gloch y prynhawn.

'Meddyliwch,' meddai Caridad, 'fflat fel hon am tua deuddeg peso y mis.

'Roedd ei gŵr yn gwasanaethu yn Ffrainc, meddai, ac yn anfon deuddeg swllt a chwech yr wythnos iddi at ei byw.

Bydd yn rhaid i'r darllenwr edrych yn fanwl arnynt, ac os, ie OS bydd un o'r rhain yr un peth â rhif y cerdyn, peidied gwastraffu eiliad, oherwydd ma'n rhaidd ffonio swyddfa'r papur newydd cyn deuddeg o'r gloch, ganol dydd.

Gyda nhw yn y car roedd eu dau blentyn, Linda - gwallt coch, deg oed, a Richard (Dic), gwallt du, deuddeg oed.

Wedi'r cyfan, dyma ddinas sy'n cael ei chyfrif gan UNESCO fel un o'r deuddeg canolfan bwysicaf o'r fath yn y byd, a thros chwe mil o'i hadeiladau wedi'u clustnodi fel rhai o bwysigrwydd eithriadol.

Rwy'n dewis cofio noson o'r fath a'r stori a adroddid pan oedd Dic yn grwt anfoesgar deuddeg oed, a minnau'n ferch bedair ar bymtheg hunan ymwybodol ac awyddus, pan oedd gennym ddwy forwyn, sef Gwladys - yr orau a fu gyda ni erioed, ac sy'n dal i ddod yma i'n helpu ar adegau arbennig megis cynhaeaf a chneifio a dyrnu - a Meinir, a briododd â Morus Ddwl a chael pump o blant ganddo, tri yn fyw a dau yn farwanedig.

Ymysg y gwylwyr yn un o'r gorseddau roedd deuddeg ynad heddwch a'r Cowbridge Volunteers.

Dyma i chi enghreifftiau: am droseddau lle na cheir marcio trwydded, deuddeg punt.

Dyw dwster a Sheryl ddim yn taro deuddeg rhywsut, ond os na fydd dwster i fyny'i llawes, credwch chi, fe fydd rhyw gynllun craff fydd yn diddanu'r gwylwyr a thrigolion Pobol y Cwm.

Fel y cofiwch, pan geir deuddeg pwynt, gellir atal trwydded yrru am gyfnod hyd at chwe mis.

Y blaenwyr Dyfarnwyd pedair cic gosb ar bymtheg gan Gareth Simmonds (yr oedd un o'r llumanwyr o Gaerloyw, sef John Roberts), deuddeg ohonynt i'r Cochion, llai nag arfer am droseddau yn y ryc er bod pob blaenwr â'i fryd ar ennill yr ail feddiant.

Dysgodd gywiro gynnau, a daeth hyn yn rhan bwysig a diddorol o'i waith: gweithio morthwylion i hen ynnau deuddeg bôr a defnyddio pinnau i sicrhau gynnau oedd yn rhy sigledig i hyd yn oed y Bedwin mwyaf beiddgar fentro eu tanio.

Ond y chwerthin a'r drygioni sy'n taro deuddeg bob tro.

Wrth neilltuo deuddeg o'i ddilynwyr i fod yn ddisgyblion iddo mewn ystyr arbennig yr oedd yn ymwybodol o addaster y rhif i roi arweiniad i ddeuddeg llwyth Israel.

Mae nhw wedi colli pob un o'u deuddeg gêm ddwetha.

Trefnodd y ddau i fod yn ôl yn y fflat am hanner awr wedi deuddeg i ginio.

Wedi gwrando ar eu cwynion, penderfynodd fod deuddeg ohonyn nhw wedi mynd yn rhy bell.

Bys bach ar y deuddeg, bys mawr ar y chwech.'

Ond efallai nad oedd y stori yn ei chyfanrwydd yn taro deuddeg yn llawn.

Bur flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbir Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.