Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deuddydd

deuddydd

Doedd dim ond deuddydd er yr olygfa honno yn y clwb Ffermwyr leuanc.

Fel rhagolygon tywydd, mae'n ddiwerth mewn deuddydd, os nad yn anghywir cyn hynny.

Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.

Deuddydd yn ddiweddarach, roeddwn mewn gwasanaeth arall - nid mewn eglwys ond mewn man bwyta yng nghrombil senedd-dy Ewrop.

Pan ddychwelodd Mary Jane i Dyddyn Bach ymhen deuddydd, cyffesodd Siôn Elias ei fod wedi lladd dyn mewn tafarn yn Lerpwl rai blynyddoedd cyn hynny.

Gosodwyd y gwaith ar gontract i Francis, ac er syndod i'r stiward a phawb yn y bonc roedd y caban yn barod i'r dynion fynd iddo ymhen deuddydd a hanner.

Ar ôl treulio deuddydd yn ymweld â chanolfannau bwydo Mogadishu, lle'r oedd rhywfaint o drefn - a gobaith - wedi'u hadfer, fe ddes i'r casgliad mai cyfleu cymhlethdod newyn yr o'n i am geisio'i wneud.

Wedi sylweddoli ymhen deuddydd ei bod wedi cael strôc, danfonodd amdanaf.

Cyrhaeddodd lai na deuddydd cyn imi ymadael am Wlad Groeg, ac yma yn Athen a Mati Zeugly y darllenais hi.

Ac mae arna'i ofn mai dyna fydd y stori am y deuddydd neu dri nesaf hefyd......

Collwyd y deuddydd cyntaf heb unrhyw chwarae o gwbl.

"Rhyw ddwy kilometr tu allan i'r dref mae hen seidin ac mae dau dryc yn aros yno ers deuddydd.