Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deuent

deuent

Deuent iddi ar fflach, meddai, heb orfod chwilio'n fwriadol amdanynt.

Tybed beth a ddywedai'r tadau gynt pe deuent ar ymweliad eto â'r henfro?

Deuent i'n Cyfarfodydd Cyffredinol a'n Ralïau yn gyson.

Gorweddai dau bisin hanner can ceiniog yn glyd yn y gwaelod, a digon o le i rai eraill fel y deuent.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Dychymyg a rhamant eraill roddodd fod i'r gred mai o wlith trwm bore o Fai yr epilient, ac eto credai eraill mai o flewyn hir cynffon ceffyl y deuent i'r byd.

Ymhen diwrnod neu ddau, galwodd Martin yn y tŷ i drafod pethau a chyhoeddodd Mary ac yntau eu bwriad i gyd-fyw cyn gynted ag y deuent o hyd i le.

Ond anaml y deuent mor gynnar â hyn.