Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deuir

deuir

Nid ar amrantiad y deuir i lawn werthfawrogi blas eu siarad.

Anaml y deuir ar draws mynegiant gan grediniwr iddo ddarganfod cariad maddeuol ac achubol yng Nghrist.

Mewn marchnata y mae'r gyfundrefn amaethyddol wedi newid, a rhywfodd neu'i gilydd deuir i'r casgliad nad oes dim o waith llaw dyn yn byw nac yn aros byth; mae'n tyfu ar ôl ei eni nes cyrraedd ei uchafbwynt as yna mae'n gwywo a marw.

Deuir i gytundeb eglur, gofalus, a Manawydan yn gwylio ar bob manylyn.

Pan geisir olrhain dysgeidiaeth yr Hen Destament ar gwestiwn cenedl, deuir wyneb yn wyneb â'r broblem a drafodir ymhob ymgais i ddadansoddi hanfod cenedligrwydd, sef y gwahaniaeth rhwng 'pobl' a 'chenedl'.