Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dewisodd

dewisodd

Gwnaeth y Priodor ei orau glas i guddio'i ofn tan haenen o ymresymu llee%nog ynglŷn â natur pechod a'r modd y dewisodd Duw ddatguddio'i hun i'r ddynoliaeth.

Dewisodd yr awdur ymdrin â phum thema sy'n ganolog i'r cyfnod hwn - Cymru a Chymreictod, Bywyd Bob Dydd, Crefydd ac Addysg, Deffro Diwydiannol a Brwydr y Bobl.

Pan ailgyhoeddwyd The Penguin Book of Welsh Verse, dewisodd y cyfieithydd, Tony Conran, ddarlun gan Paul, Heraldic Wales, i'w roi ar y clawr.

Dewisodd droi yn ôl at y Gymru werinol, at gefn gwlad am ei ddeunydd.

Yn hytrach, dewisodd fynd i'r llyfrgell am y dydd gan fod ganddi amgenach gwaith yno.

Dewisodd hefyd ben-cantor a deuddeg o ganoniaid.

Ar faterion egwyddorol o bwys, dewisodd newyddiadurwyr fynd i garchar yn hytrach na datgelu ffynhonnell eu gwybodaeth.

Ond gwyddai Owen Edwards ei hun y gwahaniaeth hanfodol rhwng ddau beth, a dewisodd achlesu'r math o ddiwylliant y gellid ei wasgaru trwy'r genedl oll.

Yn Lladin, felly, hyd yn oed yn ugeiniau a thridegau'r ail ganrif ar bymtheg, y dewisodd Dr John Davies lunio ei ddadansoddiadau ysgolheigaidd ef o eirfa a gramadeg yr iaith Gymraeg.

Er mai Bedyddwyr oedd teulu tad Euros, dewisodd fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr, enwad ei fam-yng-nghyfraith a fynychai Gapel Hermon, Treorci.

Dewisodd y coch a hefyd prynodd focs o siocled ac angel plastig.

Geraint Gruffydd erthygl, rai blynyddoedd yn ôl bellach, ar hanes yr hanesydd o Ddinbych, dewisodd y teitl arwyddocaol 'Humphrey Llwyd - Dyneiddiwr'.

Y tro yma dewisodd bregethu ar farn Duw.

Os dewisodd yr awdur roi lle Pendaran Dyfed i Bwyll, fe all fod y rheswm i'w gael yn ystyr yr enw, sef 'barn, synnwyr, ystyriaeth, dianwadalwch', ansoddau a ystyriai'n anhepgor i lywodraethwr.

Dewisodd ef safleodd y tu allan i'r rhain ar gyfer ei weithiau, gan greu diwylliant arbennig ar gyfer pobl gyffredin Cymru.

Ymysg y gerddoriaeth â ddewisodd ar gyfer ei gyfweliad gyda Michael Berkeley dewisodd "glywed" darn enwog John Cage, 4' 33".

Ar ôl galw'n gywir dewisodd Steve James fatio yn gyntaf.

Fedra i moi ddioddef e." Roedd hi'n gwybod yn iawn ar beth y cyfeiriai ond dewisodd ymddangos yn ddiniwed, "Balchder?" meddai.

Yn sgîl cyhoeddi canlyniadau pôl piniwn ar agweddau tuag at y Gymraeg dewisodd yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas fynd ati unwaith eto i ymosod ar Gymdeithas yr Iaith a cheisio ei orau glas (hynny yw, Tôri blw) i danseilio ymdrechion mudiadau protest yng Nghymru yn gyffredinol.

Dewisodd y teitl er mwyn pwysleisio bod yr iaith Gymraeg yn parhau yn ddi-statws.

Dewisodd y teitl, deon.

Dewisodd un bychan a'i roi ar y bachyn.

Fe ddarganfu ymhen blwyddyn mai mwy buddiol fyddai iddo symud i Goleg arall lle roedd eglwysi Annibynnol i'w cael yn amlach ac y byddai mwy o alw am ei wasanaeth, a dewisodd fynd i Goleg y Brifysgol Abertawe.

Ynteu a ydym i dderbyn nad yw dyfynnu'r geiriau hyn ond yn rhethreg gwag ar ran Tywysog, nad yw'n deall, neu nad yw o ddifrif ynghylch, y geiriau y dewisodd eu llefaru?

Yn 1998 daeth yn ôl i ofyn i Dyff fynd i fyw ati i Tenerife ond dewisodd Dyff aros gyda Kath.

Felly dewisodd y bwtler yr eiliad gyfleus honno i ddychwelyd trwy'r drysau gwydr a'm gweld yn ei dal.

ar ôl astudio'r fwydlen dewisodd hi blât o paella reis gyda darnau o gyw iâr a bwyd môr ).

Dewisodd Mrs Wendy Francis flodau ffres ar gyfer ei harddangosiadau.

Nid tlawd mohono ond dewisodd y ffordd fawr yn fywyd iddo ei hun.

Dewisodd fynd lawr ar un ochr i'r bachgen rhag ofn i greigiau ddigyn ar ei ben ef.

Dewisodd ef ochri gyda 'dogma a sagrafen a deffiniad mewn crefydd' (er nad oedd eto wedi ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig), ond parchai hefyd y rheini a arddelai anffyddiaeth rhonc - sef dogma anghrefydd.

Mae Teg wedi byw gyda sawl affêr mae Cassie wedi ei chael - 'roedd yn gwybod y cwbl am anturiaethau ei wraig ond dewisodd gadw'n dawel gan ei fod yn teimlo'n lwcus ei fod yn wr i Cassie.

Dewisodd Sri Lanka gau eu batiad ar ôl sgorio 475 o rediadau am bum wiced.