Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diarffordd

diarffordd

'Yr holl ffordd o Drefynwy i Dyddewi, meddiannwyd y cwbl o'r wlad a oedd o unrhyw werth yn eu golwg gan estroniaid o waed ac iaith, ac ni adawyd i hen frodorion y tir ddim ond bryniau llwm a choedwigoedd diarffordd.

Ond daliodd cynulleidfaoedd bychain ohonynt i addoli a darllen yr Ysgrythurau yn y dirgel mewn llecynnau diarffordd yn Ffrainc a'r Eidal i lawr at adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Yn wir, yr oedd gyda nifer ohonon ni luniau yn ein meddyliau o dreulio penwythnos mewn rhyw hen hongliad o adeilad oer a gwag, di-gysur a diarffordd.

Eglwysi pellennig a diarffordd oedd y rheiny gan mwyaf.

Mae'r mudiad yn ysgogi a cheisio hybu datblygiadau fel peiriannau bio-gas, ffynhonnau dŵr-glan, ac ati, mewn modd sydd am eu gwneud yn effeithiol yn y pentrefi diarffordd.

Treuliwyd wythnos ar arfordir yr Atlantig, lle buont yn ymweld â chymunedau diarffordd iawn.

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.

Cyn codi'r adeiladau hyn arferai'r ymneilltuwyr cynnar ymgynnull yn nhai ei gilydd, mewn ysguboriau a chilfachau diarffordd.

Ac yr oedd y rheini yn Hafod y Coed, yr hen ffermdy diarffordd yng nghanol y goedwig.

Egyr y gyfrol gyda A Dyfod Adref yn Ddigerydd, stori am dri bachgen sy'n crwydro o wers rygbi yn yr ysgol ac yn canfod hen dy diarffordd.