Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diau

diau

Diau na fyddai y Daeargi Cymreig yn bod fel ci sioe onibai am ei thad.

Diau fod gwir yn hynny; nid yw ond yn chwerwi'r trasiedi.

Diau ei fod hefyd yn un o feirniaid craffaf ei gyfnod.

Byddaf yn rhyfeddu þ a diau fod pawb arall a'i gwêl yn rhyfeddu yn yr un modd þ fel y tyf tyfiant iraidd y gwanwyn allan o'r marwor du.

Diau fod eithriadau, sef y bodau hynny a eilw'r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prodder Rhys yn un o'r freaks hynny, y mae'n wrthrych tosturi.

Anwylai fy mam yr ybaid cynnar hapus a gawsai yn yr ardal honno cyn cael ei symud yn wyth oed i gymoedd diwydiannol Morgannwg; a diau fod swyn iddi yn yr enw 'Merlin'.

A diau mai eu tosturi a'u hysgogodd i ddyfarnu ysgoloriaeth imi.

Unwaith y byddwch wedi pen- derfynu prynu carafan, diau y cewch eich temtio fel pawb arall i brynu pob math o ategolion.

Dyna awgrym holl naws y llyfr a diau y bydd ambell un mwy eangfrydig yn gwrido braidd wrth rai o'r sylwadau.

Gair i gall meddan nhw, a diau y gwelsoch o'r Rhagarweiniad fod yr awdur yn siarad o brofiad chwerw o hyn o beth.

Diau fod sgerbydau yng nghypyrddau pob tylwyth, ac nid ydynt yn brin yn y tylwythau sy'n gefndir i'm stranciau i.

Yn ystod ei anerchiad yn oedfa sefydlu Curig dywedodd yr Athro J.Oliver Stephens wrtho, "Yr ydych yn dechrau eich gwaith mewn argyfwng mawr, a diau y penderfynir eich gwasanaeth i raddau helaeth ganddo." A gwir a ddywedodd.

Diau y bydd angen prynu batri arnoch, hyd yn oed os oes trydan yn y garafan neu beidio.

Yr ydw i yn Gymro ac y mae fy mhlant yn hanner Albaniad - a diau mai y genedl honno a roddodd y mêl ar ein bara ceirch.

Y mae'r plu chweochrog yn rhan annatod o dymor yr hirlwm a diau y gwna'r eira lawer o les wrth ladd hadau anhwylderau mewn dyn ac anifail a thir.

Fe daerid fod y cyfryw ymgyrch yn lladd ein siawns i ddenu ffatrïoedd Seisnig i'r ardaloedd gwledig Cymraeg; a diau mai felly y byddai.

A diau fod hwnnw yn fwy Celtig na Rhufeinig.

Diau mai yn y cyfeiriadau hyn y mae chwilio am natur y cymorth a roed ganddo i gyfieithydd y Beibl, ac yn fwyaf arbennig efallai yn a wybodaeth o eirfa a chystrawen yr hen gywyddwyr.

Diau y bydd yn rhaid imi anfon i Lundain amdano.

Os byth yr ewch i Ruthun a dal sylw ar yr ysgol ramadeg hardd sydd yno, diau y dywed rhywun wrthych mai Gabriel Goodman a'i sefydlodd.

Diau ei fod wedi troi i ddarllen yr hyn a ddywedid am y plwyf yn yr argraffiad newydd o Britannia William Camden a gyhoeddasid y flwyddyn flaenorol.

Diau fod aml denant yn methu cysgu gan y llawenydd sydd yn deillio iddo o'r ymwybyddiaeth hon o rinwedd ar ei ran.

Diau na all Ms Clwyd gysgu'n dawel yn y sicrwydd ei bod hi wedi ein rhybuddio ni am gamweddau ein gweithredoedd.

Diau ei fod yn iawn, ac eto, wedi gweld arwyddion o friciau'n malu, ni thybiwn i fod cerdded drwyddo'n gwbl ddiberygl.

Diau bod rhesymau cymhleth am hynny, ond gyda golwg ar byllau afon dylid cofio fod y nodweddion a enwyd gynt hwythau yn cael eu dileu, gan gynlluniau traenio sy'n golygu clirio a dyfnhau rhedfa'r afon.

Diau i'w ddull o ysgrifennu effeithio ar lawer un arall, oherwydd darllenid ei weithiau, yn erthyglau a llyfrau, gan bob llenor o Gymro yn gyson am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Diau fod yn hyn awgrym o'r anesmwythyd cyfoes fod twrnameintiau, wrth dyfu'n achlysuron cymdeithasol arddangosiadol, yn colli peth o'r budd a ddeilliai

Diau fod naws unig eu cynefin nythu ar diroedd anial y gogledd pell yn eu canlyn i aeafu yma yng Ngwledydd Prydain.

Diau fod agwedd y bardd yn sylfaenol wrywaidd wrth weld ei fab yn ymgorfforiad ohono'i hun, ond gellir ymdeimlo â rhyw dynerwch benywaidd yma hefyd.

Diau eu bod hwy yn eu gweld yn stori%au am farchogion llys Arthur, a disgwylient ganfod yn y categori hwnnw nodweddion cyfanrwydd yr ymchwil sifalri%aidd, lysaidd, ond o fewn y cyd-destun cyfeiriol hwnnw byddai rhaid i bob stori gynnal ei hapêl ei hun.

Diau i'w gyfeillgarwch a Lhwyd fod yn ddylanwad ar Rowlands ac yn addysg iddo, ond yr oedd wrth reddf yn fyfyriwr darllengar, cynhwysfawr ei ddiddordeb.

Diau eich bod wedi deall erbyn hyn mai llyfr i'w gymryd o ddifrif oedd llyfr otograff fy mam.

Diau mai cyflwr peryglus i ddyn fod ynddo oedd hwnnw.

Roberts fod Pengwern yn galw Badshah yn 'unmitigated scoundrel'; diau fod y blynyddoedd dilynol wedi dangos mor wir oedd y disgrifiad hwn ohono.

Diau, bod hynnyn wir.

Y mae yma rai yma a thraw a ddigwyddai fod yn fugeiliaid ar breiddiau eraill yn yr un dref, a diau fod fy mam, fel sawl gwraig dda arall, wedi rhoi llety i rai o'r brodyr a ddeuai i Sasiwn a Chymanfa ac Undeb.

Diau fe welir datblygu grwpiau gofalwyr a defnyddwyr yn y dyfodol.

Diau bod yr ystyron wedi cawlio erbyn y drydedd ganrif ar ddeg pan sonia testun arbennig am 'anfon (lago) yr ard y gynnull cawl y wneithur bressych'.

A hithau'n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion - o'u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad gwerthfawr o'r drafodaeth a fu hyd yn hyn.

Diau fod gwahaniaethau sylfaenol rhwng ei ddaliadau gwleidyddol ef ac eiddo sylfaenydd ac arweinydd L'Action Fran‡aise.

Diau fod Saunders Lewis yn ystyried y ganrif ddiwethaf, a'i chymryd yn ei chrynswth, fel canrif drychinebus yn ein hanes (er nad yw'n condemnio pob unigolyn a phob mudiad, wrth gwrs).

Diau i'r balchder Seisnig newydd ddylanwadu ar yr uchelwyr ymhlith y milwyr Cymraeg.

Diau y byddai'n ymddwyn yn fwy bonheddig gerbron Tywysog Cymru na cherbron tîm rygbi Bae Colwyn, ond Bedwyr oedd Bedwyr ble bynnag yr âi, Bedwyr y sgwrsiwr hwyliog, Bedwyr y cefnogwr unllygeidiog, Bedwyr y rhefrwr didderbynwyneb a'r rhegwr.

Ni wyddai Dr Peate--mwy na neb arall--mai Tegla oedd "Another Adjudicator", a diau mai un o lawer oedd ei lythyr protest ef.