Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diboblogi

diboblogi

'Roedd o hefyd wedi gweld problem diboblogi a sylweddolodd fod y ddinas yn annog ieuenctid Cymru.

Gyda diboblogi a'r argyfwng economaidd yng nghefn gwlad, prinhau mae'r adeiladau yma.

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.

Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.

Canlyniadau'r datblygiadau mewn dulliau ffermio a pholisiau cynllunio cibddall Llywodraeth Lloegr oedd y ddau amlycaf o nifer o resymau dros y diweithdra a'r diboblogi.