Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diddan

diddan

Fel y dywedais, ar faterion eraill yr oedd yn gwmniwr diddan a diddorol, a dysgais lawer ganddo.

Gwelai foreau coffi a nosweithiau diddan o fwyta a chyfeddach yng nghwmni cyfeillion.

Yn hwyr y noswaith honno wedi treulio diwrnod digon diddan efo Mali a'r plant, cychwynnodd Merêd a Dilys am Gaergybi i ddal y llong hwyr am Iwerddon.

Mae hi'n byw'n ddigon pell oddi acw?" "Mae hi acw'n aros hefo ni ers wsnos, was i." "Cwmpeini diddan i chi'r nosweithiau hirion yma," sylwais yn ddifeddwl.

Amlygir hynny yng nghwpled Siôn Mawddwy sy'n tanlinellu'r cyd-fyw diddan rhwng gŵr a gwraig a thad a mam dan yr un gronglwyd.

Yr oedd yn gwmniwr diddan a byddai'n dda gennyf pe bawn wedi cofnodi llawer o'r pethau diddorol, ac yn wir hanesyddol bwysig a adroddai wrthyf am y teulu ac am fy hen ardal.