Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

didostur

didostur

Rhoir natur y llanc inni, yn gryno a chytbwys, yn y llinell agoriadol, gyda'r gair 'oer' yn yr esgyll yn wrthgyferbyniad didostur i'r 'twymgalon'.

O'r hyn a welais i yng ngogledd Irac, er hynny, defnyddio'u sgiliau, eu cryfder corfforol a'u hyfforddiant didostur i wneud gwaith dyngarol yr oeddent - a'i wneud yn dda.

Ac wrth reswm, yr oedd ysbryd herfeiddiol y glowyr yn ganlyniad nid yn unig i'r tipyn chwerwedd ynghylch y plocynnau pren ond hefyd i annhegwch didostur holl amgylchiadau eu llafur a'u tal.

Ymerawdwr Rhufain ar y pryd oedd Domitian, dyn didostur a ryfygai i alw ei hun Ein Harglwydd a'n Duw.

Roedd George Millace, ffotograffydd didostur yr eiliadau hynny yr oedd yn well gan bob joci anghofio amdanyn nhw, yn saff yn ei focs hanner y ffordd i lawr i'w hir gartref y funud honno.

Mae Mair Evans yn grefftus yn ei phortread o Leni fel merch hunanol a didostur yn ei hawydd i ddod o hyd i'r gwirionedd ond mae hyn yn ennyn diddordeb y darllenwr i weld a ydy hi'n llwyddo ai peidio.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Er iddynt balfalu ymysg y brigau yn debycach i ditw nac i golomen, cwympo o'r grib i'r gwter oedd hanes sawl un, o flaen y cerbydau didostur ar y ffordd gyfagos.

Ai buddugoliaeth fyddai, ai brwydr galed yn erbyn meistri didostur?