Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diffaith

diffaith

Dylai'r Awdurdod barhau i bwyso am i amodau rhoi Grant Awdurdod Datblygu Cymru at Adennill Tir Diffaith fod, ynddynt eu hunain, yn fwy sensitif i'r amgylchedd.

Roedd e lan fry mewn bloc o fflatiau diffaith yn Nwyrain Berlin.

Wrth ystyried cynlluniau unigol, dylid meddwl am gyllideb adennill tir diffaith mewn perthynas ag ynni ac, ym mhob achos, dylid ystyried y dewis o beidio â gwneud dim.

Cynhaliwyd yr arddangosfa ynghyd â chyfarfod Plaid Cymru yn y dref a'r bwriad oedd dangos y posibiliadau o ddefnyddio safleoedd diffaith fel hwn i greu canolfannau celf a meithrinfeydd diwydiannau celf.'

Lle digon diffaith oedd Nant y Gors a'r sôn oedd mai crafu bywoliaeth a wnâi Ham, ond ni welais i erioed neb hapusach.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Er mawr syndod, er bod byw fel hyn yn ymddangos yn ganwaith gwell na marw o newyn ar dir diffaith, roedd nifer fawr o bobl wedi cerdded yr holl ffordd yn ôl i'r gogledd.

Gadawodd hyn Sheffield gyda llawer o dir diffaith, ardaloedd lle nad oedd gwaith a lle 'roedd natur yn graddol adennill ei thir.

Cyrraedd Dulyn ddydd Llun, trên wedyn cyn belled ag yr âi o, car mail trwy le diffaith am rai milltiroedd i bentre' bychan, a ffflôt a cheffyl oddi yno am bedair milltir eto.

EFFEITHIAU: Mae llawer o safleoedd diffaith yn werthfawr i'r amgylchedd o ran gwarchod natur a'r tirwedd.