Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diffinio

diffinio

Mae'r Ddeddf yn diffinio anghenion addysgol arbennig fel anawsterau ac anableddau dysgu sy'n llawer mwy na'r rhai a brofir gan y mwyafrif o ddisgyblion o'r un oedran.

Syniad arall pwysig a ddaeth o Comisiwn Warnock oedd bod rhai plant i'w amddiffyn oddi fewn i'r sustem drwy datganiad o addysg arbennig (DAA), sef dogfen fyddai'n diffinio ac adnabod anghenion addysgol plentyn.

Ystyried y pwnc hwn yn ei berthynas â'r Telynorion, a'r Datgeiniaid, i weled a ellir diffinio rheol a fydd yn sefydlog o berthynas iddo.

Nid peth newydd yw diffinio'r pwnc fel hyn gan gyfeirio at fframwaith gwyddonol; cyfeiriwyd at y pwnc fel hyn yn y lle cyntaf gan chwilotwyr tanfor ym Môr y Canoldir a chysylltir yr agwedd hon â gweithiau Diole\ yn bennaf.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Ond o groniclo ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw fe geir mai'r hyn sydd bwysicaf yw, nid ei dylanwad politicaidd cyffredinol (oblegid bychan ydoedd) ond twf ei syniadau a'r modd y ceisiodd ei harweinwyr lunio a diffinio safbwynt ac agwedd Gymreig tuag at argyfwng y dydd.

Mae'r das yn y canol yn cael ei diffinio'n llwyr gan strociau o baent, amrywiol eu lliw, wedi eu sodro'n dew â chyllell balet, ac yn gwthio'r ddelwedd tuag at yr edrychwr.

Mae'r Athro Pennar Davies yn diffinio problem Manawydan yn eglur - pa mor hir y dylid goddef anghyfiawnder, pa bryd y dylid gweithredu?

Yn ystod ail hanner y ganrif hon, mae ambell i gwmni recordiau wedi casglu ynghyd berfformwyr a cherddorion sydd wedi diffinio eu cyfnod.

Swydd newydd heb gynsail iddi ac felly swydd y byddai'n anodd diffinio'i chyfrifoldebau.

Son felly er mwyn ei leoli a diffinio natur ei gynnyrch a dynodi ei le o fewn patrwm ei gyfoeswyr?

Er mai Saesneg oedd yr iaith swyddogol a orfodwyd o du allan, trwy gyfrwng y Gymraeg y bu i'r trigolion hyn ymwneud â'i gilydd a diffinio eu hunaniaeth.

Mynnai'r canoniaid fod Ferrar yn gohirio anfon papurau'r achos iddynt gyhyd ag oedd yn bosibl er mwyn ei gwneud yn anodd iddynt amddiffyn eu hunain a haerai Ferrar fod y canoniaid yn ei rwystro rhag gweld y dogfennau yn Nhyddewi a oedd yn diffinio hyd a lled ei waith a'i awdurdod fel esgob.

Roedd hi'n adlewyrchiad o'r holltau gwleidyddol, ieithyddol ac enwadol o fewn cenedl oedd yn mynnu ei diffinio ei hun mewn sawl modd gwahanol.

Dylid ceisio diffinio'n gliriach natur y 'cyfle cyfartal' o safbwynt darpariaeth adnoddau, er enghraifft mewn perthynas ag adroddiadau o'r 'Educational Publishers Council' ar gyflenwad adnoddau mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Yr oedd Deddf Goddefiad yn diffinio ar ba delerau y câi'r Hen Ymneilltuwyr gynnal eu hoedfeuon a'u cyfeillachau.

Diffinio'r ddisgyblaeth newydd

Nid hawdd diffinio ffydd.

Ystyried ymhellach y pwnc yn unol â'r addewid a roed yn y "Gornel" i weled a ellir diffinio'r safon o'i osod, ac i roddi iddo ddeheulaw Cymdeithas Cerdd Dant.