Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diffygion

diffygion

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Erbyn hyn y mae'r tybio hwn yn peri i mi ymwaradwyddo, ond, o'i drin yn fanylach fe welid gormod o'm diffygion i.

Mae llawer o'u cynnwys yn opiniynau dynion y cyfnod hwnnw am y gyfundrefn addysg honno a'i diffygion.

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

Gellid gweld bod yna gysylltiad rhwng diffygion yr awyrgylch moesol a'r diffygion yn yr amgylchedd materol, a rhwng y rheini a'r gwasgu a oedd ar addysg i wneud iawn amdanynt, dyna arwain at un o'r themâu pwysicaf yn yr Adroddiadau.

Rheswm arall wedyn am y diffygion a nodwyd yw dwysedd y mewnlifiad cyson o Saeson i aardaloedd gwledig Cymru.

Oherwydd diffygion y gorffennol dywed fod yr angen yn bod yn awr i greu trwy edrych dros yr ysgwydd fel petai lenyddiaeth fawr am lowyr Cymru.

Trwy ymbil tros yr ieuenctid cawn gyfle i edifarhau am ein diffygion yn ein perthynas â hwy.

Ni ellid derbyn Beibl Genefa fel y fersiwn swyddogol, ond 'roedd wedi dwyn diffygion y Beibl Mawr i'r amlwg; penderfynwyd, gan hynny, ar wneud fersiwn diwygiedig arall a fyddai'n rhydd o dramgwydd Beibl Genefa.

Arolwg yn dangos fod un o bob deuddeg o blant ysgolion cynradd Prydain yn dioddef o afiechyd a diffygion lluniaeth.

Unwaith eto y tymor hwn fe dalodd Bangor yn ddrud am eu diffygion amddiffynnol.

I'r perwyl hyn penderfynwyd ffurfio gweithgor i unioni'r diffygion hyn.

Nid posibl cuddio na rhagoriaethau na diffygion Seren.

Ond mae'n nodi'r diffygion hefyd: "Er mor bwysig yw'r datblygiadau hyn, erys llawer bwlch, yn enwedig o ran yr angen i gael helaethach amrywiaeth o ddeunydd cyfeirio ac adnoddau i gynnal gwaith project a gwaith topig yn y dyniaethau ac mewn gwyddoniaeth".

Roedd gallu Saunders Lewis mor rhyfeddol fel y tueddwyd i anwybyddu diffygion anochel y ddadl, yn enwedig diffyg unrhyw raglen bendant ar gyfer ennill rhyddid a chyfrifoldeb.

Yr oedd yn ŵr manwl, fel y dywedais, ac ni allai oddef harum scarum o broffeswr; ond gan nad beth a fyddai colledion a diffygion dyn, os credai Abel ei fod yn onest, cydymdeimlai'n ddwfn ag ef.

Ceid ynddynt gadarnhad o'r hyn a wyddai'r Dirprwywyr dros Godi Eglwysi a'r Gymdeithas Adeiladu Eglwysi, bod diffygion argyfyngus yr eglwys a'r ysgolion yn nodweddiadol nid yn unig o ardaloedd dinesig, ond yn gyffredin trwy ardaloedd gwledig Lloegr a Chymru.

Teimlem fod dyletswydd arnom i geisio esbonio fod diffygion mawr yn y gymdeithas y perthynem ninnau iddi, yn ogystal.