Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diflannodd

diflannodd

Cododd y brenin ei law ac ynghanol twrw'r dŵr gwaeddodd: Dowch ar fy ôl i rwan a gwyliwch rhag llithro ar y cerrig." Fel stori o lyfr yn yr ysgol, diflannodd o dan y pistyll dŵr.

Diflannodd y Coraniaid yn y man ond cadwodd Lludd ychydig o'r ffolliaid yn fyw, rhag ofn i'r Coraniaid ddychwelyd rywbryd eto.

Bydd car Sarjant Jenkins tu fas mewn munud.' Diflannodd y ferch ond ailymddangosodd ymhen eiliad yn gwisgo'i chot fawr a'i chapan.

Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.

Diflannodd y ferch a theimlodd Llio ei hun yn disgyn, disgyn ac yna ysgytwad yn dirdynnu ei chorff.

Diflannodd bron y cyfan o'r allanolion a'r digwyddiadau ategol arferol- diflannodd pob cymeriad arall am y rhan orau o'r hanes ond Sam ei hun a'r bodau lledrithiol y bu gyda hwynt Llwythir a gyrrir yr hanes â delwedd ar ôl delwedd, llun ar ôl llun, dyfalu ar ôl dyfalu, fel petai Tegla am gyrraedd pinaclau y profiadau mwyaf amhosibl eu dweud ac yn methu â theimlo ei fod yn ymdrechu digon.

Doedd anrhydedd ac urddas yn cyfrif dim a diflannodd pob llawenydd o'u bywydau.

A dyna'r olwg olaf a welwyd arni.Diflannodd, ysywaeth,am byth.

Diflannodd y canwr flynyddoedd yn ôl ac ar ei thaith i ddysgu ei hanes mae Leni yn cyfarfod â nifer o gymeriadau digon anarferol.

O ganlyniad, diflannodd penarglwyddiaeth y dyn llyfr bach.

Wedi'r trobwynt diflannodd yr hualau.

Farwodd o'n sydyn.' Ac felly y diflannodd cre%wr y chwedlau, a'r un fu'n eu hail-fywhau ger ein bron.

Taflodd y gweddill dros ei dri chyfaill a'u meirch a diflannodd pob un ohonyn nhw.

Wrth i'r peiriannau o bob math fynd yn fwy ac yn fwy, aeth y caeau yn feysydd a diflannodd yr hen batrymau fyddai i'w gweld fel cwiltiau clytwaith wrth edrych arnynt o lethrau'r bryniau ac ambell godiad tir.

Sylweddolodd Denzil mewn pryd fod Dic yn ei dwyllo a diflannodd Dic gydag arian til y siop yn ei boced.

Ciliodd o'r caeau a'r meysydd pan drodd amaethyddiaeth at beiriannau; cafodd ei ddisodli oddi ar y ffyrdd gan y modur; a diflannodd oddi ar bonciau'r chwareli pan ddaeth y 'loco' i gymryd ei le.

Diflannodd llawer o ddirgelwch gwaith yr alcemegwr ynghyd a'r hud a lledrith a berthynai iddo, pan ganolbwyntiodd Robert Boyle ffisegydd a chemegydd Prydeinig, ar ddatblygu moddion a phils i'r claf.

Wrth fynd i ddefnyddio cyfleusterau'r gwesty, diflannodd nifer o arwyddion o'r lle.

Yna diflannodd y wên oddi ar ei wyneb ac meddai'n araf, "Bydd pawb yn y dref yn dibynnu arnat ti.

Ymlaen â hwy wedyn, a diflannodd Rex am yr ail waith.

Diflannodd y ddau mewn cawod o wreichion bychan.

Diflannodd Aled i rywle, ond arhosodd Snowt yn y cyntedd, gan adael y drws yn gil-agored o'i ol.

Fe ffonia i 'nôl.' Chwarter milltir o'i flaen, diflannodd Sierra glas Davies o amgylch cornel wrth i ddarn syth o ffordd ddirwyn i ben.

Rhedodd Belka i'r fan lle y diflannodd ei meistr a dechrau crafu'r eira oddi yno gyda'i phawenau.

Wedi i fand y dathlu ddistewi, diflannodd Menem i mewn i'r Casa Rosada i gyfarch yr holl lysgenhadon tramor yn y wlad.

Diflannodd y perthi o dan orchudd o flodau gwyn, agorodd y blodau eu petalau, ac yn y bore bach canai cor yr adar gyda arddeliad.

Diflannodd y gert yn y pellter a phrysurodd pawb ymlaen unwaith eto.

Wn i ddim i lle y diflannodd Sab a Meic.

Diflannodd ffermio cymysg traddodiadol a ganed 'agri-business' - o leiaf mewn rhannau helaeth o Brydain, y Cyfandir a'r Amerig.

Yn anffodus crwydrodd ei lygad i gyfeiriad bwrdd crwn a diflannodd y gwynt i gyd o'i hwyliau - roedd Laura Elin o'r Felin wedi hulio brecwast i dri.

Diflannodd y cyfamod yn mwyafrif ein heglwysi a hwnnw oedd y cyfrwng cyhoeddus i warchod y ffin.

Mae'r Dylluan Wen yn mynd i hela." Yna diflannodd i'r gwyll a Jean Marcel yn syllu'n geg agored ar ei ôl.

Wedi gofyn imi dynnu fy nghrys, diflannodd y doctor y tu ôl i sgrin ym mhen pella'r ystafell fawr.

Tasgodd cudynnau o wallt gwinau hardd o'i phen, toddodd ei sbectol i ddangos pâr o lygaid sionc, esmwythodd ei chroen fel cotwm dan hetar, diflannodd y crychau, a daeth rhwy wytnwch newydd i'w chorff.

Diflannodd y plant i'r gwyll ac wedi i sŵn eu traed yn printio'r eira ddistewi, daeth Henri o'r cysgodion yn hamddenol, ei wn sten yn ei law.

Diflannodd car y polîs o'i olwg.

Stwmpiodd ei smôc rhwng ei bympsan a'r concrit a cherddodd yn hamddenol at y cwt y diflannodd Ifor i mewn iddo.

Erbyn hynny roedd si ar led fod rhywrai wedi clywed sgrechfeydd ofnadwy yn dod o dŷ Ali tua hanner awr wedi un-ar-ddeg y bore y diflannodd Mary.