Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diflannu

diflannu

Yn un peth, y mae'r hyfforddi plant mewn canu a nodweddai ein heglwysi gynt bron wedi diflannu.

Y plant yn rhoi croeso mawr, y seciwriti yn mynd yn wallgof, a'r Prifathro yn diflannu i mewn i'r ysgol am ei fod yn perthyn i'r Blaid Fach medda nhw!

Er iddo barhau i'w ystyried ei hun fel Anglican, 'roedd ei hunan-hyder wedi diflannu.

Doedd yna ddim cymaint yn y Cyfarfod Cyffredinol eleni, yn wir mae'r tyrfaoedd mawr wedi diflannu ers canol y saithdegau.

Ar y naill law nid oedd tristwch ymhell gan fod bechgyn yn cael eu gwysio i'r lluoedd arfog ac yn diflannu o'n mysg - rhai ohonynt am byth.

Yn ystod Haf byr a ddaw i ardaloedd oer gogleddol y byd, mae'r eira a'r rhew yn diflannu a miliynau o blanhigion, blodau a phryfed yn ymddangos.

"Ein dyfodol ni'n sicr, a Maes y Carneddau'n ddiogel - darn o Gymru wedi ei achub." Tynnodd ei llaw yn dyner dros y clais ar ei dalcen, clais oedd yn dechrau diflannu erbyn hyn.

Pob man yn wlyb heno er bod y glaw wedi diflannu ers oriau.

Un rheswm oedd nad oedd hi'n bosib' adnabod y cyrff y daethpwyd o hyd iddyn nhw yn y meysydd gwaed, a'r llall am fod cymaint wedi cael eu cipio gan y Khmer Rouge a diflannu am byth.

A deigryn bach yn llygaid sawl ur wrth weld yr hen foi yn diflannu i lawr Twnel Conwy am yr olaf dro...

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Wedi i'r llais ddistewi, mae'r gyfrinach yn diflannu hefyd.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Efallai wir fod y ffaith nad yw ein cymunedau Cymraeg wedi diflannu'n llwyr yn destun clod i ymgyrchwyr a aeth ati wedi 1984 i greu polisiau iaith newydd yn ein hysgolion, ym myd tai a chynllunio ac a greodd hyder newydd o ganlyniad i'r ymgyrchu.

Hithau'n dweud fod y ddwy yn diflannu i hel straeon hanner yr amser.

Roedd wedi diflannu cyn i mi fedru cael fy ngwynt ataf a'i ollwng allan.

Ond nid oedd yr hofrennydd wedi diflannu am byth.

Diflannu oddi ar wyneb y ddaear, dyna ddywedodd o.

Er bod yr hen ffordd o fyw wedi diflannu, nid oedd yn angof.

Roedd eira'n dechrau disgyn ar ei wyneb ac roedd mynyddoedd noethlwm Tadzhikstan yn dechrau diflannu y tu ôl i flanced gwyn.

Pe gofynnech i un o hen lowyr dyffryn Aman am leoliad un o'r gwythiennau hyn fe ddywedai wrthych ar unwaith ei bod yn brigo i'r wyneb fan hyn, yn diflannu fan draw ac yn ymddangos drachefn mewn man arall.

Chwiliwch am yr amryw o blanhigion arfoor a ddaw i'r amlwg yma, wedi addasu eu hunain i wrthsefyll drycinoedd y glannau ac i sugno as chadw lleithder cyn iddo diflannu i'r tywod.

Roeddwn i wedi gweld Twm Dafis yn mynd i mewn, ond lle goblyn roedd o wedi diflannu?

Nid oes dim mewn hanes, nac mewn gwleidyddiaeth, sy'n fwy anghysurus nag anomali sy'n gwrthod diflannu.

'Roedd yr arlliw o dynerwch wedi diflannu a rhyw galedwch rhyfedd yn ei lygaid.

Yn raddol, mae'i changhennau wedi pydru ac wedi diflannu.

Ni symudodd y ferch as wedi eiliad o edrych ym myw llygad ei gilydd, ailgychwynnodd y creadur ar ei daith a diflannu dros y twyn.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

'Damia!' "Mae fel petaen nhw wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear, Dywysog.'

Ond mae'r rheini hefyd i bob pwrpas wedi diflannu.

Pan gynhaliwyd gwyl genedlaethol yn Llanbed y tro diwethaf - yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984 - cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur o'r enw CYMRU 2000. Ein dadl ar y pryd oedd y gallasai cymunedau naturiol Cymraeg fod wedi diflannu ymron erbyn troad y ganrif, er y byddai dros 400,000 o unigolion yn dal i siarad Cymraeg.

Doedd 'na neb arall yno ar y pryd; a golygfa digon cyffrous oedd hi wrth i'r haul - gwantan braidd - foddi y tu ôl i gymylau llwydion cyn diflannu.

Pan aeth Beti yn ôl adre darganfu fod Geoff, ei gwr, wedi diflannu gyda'r arian i gyd.

Pan oedd y cydio maes wrth faes yn digwydd, nid colli'r teuluoedd oedd yn byw yn y ffermydd yn unig yr oedd y gymdeithas; roedd y gweithwyr a'u teuluoedd yn gadael hefyd, ac yr oedd y crefftwyr yn mynd yn brin ac yn diflannu, ac nid oedd angen gwasanaethau ar boblogaeth denau oedd yn nychu i'w thranc.

Edrychi i fyny a cheisio dy orau i weld beth sydd yno ond fe fethi â gweld dim Rwyt yn troi'n ôl at y bwci i ddweud wrtho i fynd yn ei flaen ond mae wedi diflannu gan adael pen dy raff ar y llawr.

Ond cyn imi gael amser i gerdded ar draws yr ystafell a chyrraedd ei phen pella yr oedd y cwbwl oll wedi diflannu.

A dwi yn poeni bod y nod hwnnw yn diflannu o'r gôl hollbwysig honno a elwir yn ddatganoli grym.

Ond yn y bore pan gododd pawb, roedd y llong wedi diflannu.

Gwelent oddi wrth ei ystum ei fod yn mynd i lawr grisiau neu ryw fath o ysgol ac ni fu'n hir cyn diflannu'n llwyr.

Brysiem adref wedyn am bythefnos o wyliau gan ddawnsio'n hapus, wedi anghofio'n llwyr am Fwgan y Foty, yr oren a'r afal yn flasus iawn a'r melysion wedi diflannu ers meitin.

Sut oedd hi'n mynd i egluro i EJ fod y pres siwrin wedi diflannu?

Pan ddechreuodd ei chanu dilynodd holl blant y dref ef a diflannu i mewn i fynydd.

Mae ei wŷr yn crechwenu ac yn ei oganu ymhlith ei gilydd, ond maent yn grwgnach hefyd wrth wedd clod y llys ac enillion y twrnameintiau'n diflannu.

'Rwyn meddwl bod y stori yna wedi diflannu - mae pawb yn gwybod bod hynny'n amhosib.

"Mi fydd oriau wedi mynd heibio cyn iddyn nhw sylwi nad ydw i ar y llong, ac er bydd y capten yn sicr o ddychwelyd i chwilio amdana i, mi fydda i wedi boddi ymhell cyn hynny," meddai'n ddigalon wrtho'i hun, gan wylio'r golau yn diflannu i'r pellter.

Erbyn diwedd y ganrif mae'r diwydiant glo wedi diflannu i bob pwrpas, mae'r gweithfeydd dur mawr yn Shotton, Glyn Ebwy a Chaerdydd wedi cau, ac mae nifer y rhai sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth wedi haneru.

Tra bydd ef yn prysuro ymlaen yn uchel ei obeithion bydd hithau'n codi a diflannu gyda'r gwynt yn wrthgefn iddo.

Meddai wrthyf cyn diflannu i weithio ar ei haraith 'Diolch i chwi am ei gwneud yn hawdd i mi drwy eu rhoi yn y mwd iawn gyda'r stori wych.' Wel, yr oedd yn gwybod sut i blesio a gwerthfawrogi--yn wahanol iawn i'w rhagflaenydd swta!!

Trodd fel fflach i weld cwt Bethan yn diflannu trwy ddrws.

Fel y gellid disgwyl, mae llawer o'r enwau hyn wedi mynd ar goll eisoes neu ar fin diflannu.

Mae'r haul ymron diflannu ac mae rhai pobl yn dal i weithio oriau hwyr yn y caeau.

"Hel meddylia, dyna i gyd." Roedd ei nerfusrwydd wedi diflannu am y tro cyntaf.

yr oedd robert griffith yn hollol gywir yn cyfeirio at y ffaith fod david hughes wedi diflannu'n llwyr o gylchoedd cerdd dant, ond serch hynny mae aml i gyfeiriad yn ei farwnadau i'w ddawn fel telynor yn y gymdeithas o wyddonwyr ac arloeswyr peiriannegol yr oedd yn aelod ohoni yn llundain, ac yn wir mae lle i amau a fyddai ei ddyfais bwysig gyntaf wedi gweld golau dydd oni am ei allu fel cerddor.

Y mae lle inni i gyd bryderu pan welwn hen werthoedd traddodiadol yn diflannu.

'Dowch!' chwymodd, a diflannu dan wyneb y dþr.

Yn sydyn, wrth i ambell un ohonom sibrwd ei fod yn oedi am nad oedd taith adref ar un o awyrennau cwmni Aeroflot yn apelio rhyw lawer, byddai'r cyfan yn dod i ben, Mr Gorbachev a'i dîm yn diflannu gan adael cynulleidfa wedi llwyr ymlâdd.

Wrth sefyll o flaen un o'r lleill roedd eich pen a'ch traed i'w gweld ond eich canol yn diflannu'n llwyr.

O sefyll o flaen hwnnw'n wysg eich ochr roeddech chi'n diflannu'n gyfan gwbl, bron.

Felly mae yna saith o gathod y pentref yma wedi diflannu hyd yn hyn.

Dechreuodd y corachod daro'u traed yn erbyn y ddaear wrth weld eu gwobr yn diflannu o flaen eu llygaid ond gan alw ar y lleill ac ysbarduno'i ferlyn, arweiniodd Caradog y ffordd heibio iddyn nhw.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Tseineaid yn prysuro rhwng siopau bychain Chatham Road North, yn diflannu i wyll y mân weithdai sy'n agored i'r stryd, neu'n hamddena yn y parc bychan coediog sy'n gorwedd yng nghesail cilgant stryd Wo Chung ac yng nghysgod y pileri sy'n cynnal heol Fat Kong uwchlaw.

Roedd Ysbryd yr Hen Reithordy wedi diflannu eisoes i ddechrau ar ei waith ofnadwy o ddychryn Modryb Lanaf Lerpwl.

Ar wahân i'w hofn rhag ffwndamentaliaeth Moslemaidd mae llawer o ferched Uzbek yn aelodau o deuluoedd a phriodasau cymysg ac ni fynnant hwy weld y rhyddid i ddilyn y diwylliant priodasol a fynnont yn diflannu.

Pan gyrhaeddodd Curig Davies, yr oedd y côr wedi diflannu, mae'n wir, ond yr oedd tair ffidil neu bedair yn dal i barhau'r traddodiad cerddorfaol.

Nid oedd Cochyn y plismon i'w weld yn unlle, a meddyliai Wyn ei fod yn dal i fod ar drywydd y lleidr cathod gan fod Mari Ddu, un arall o gathod y stad dai, wedi diflannu yn ystod y nos.

Erbyn iddo ymladd ei ffordd trwy'r pla o ferched ac allan i'r cyntedd roedd wedi diflannu.

Cofiodd am y llongau anferth oedd wedi diflannu heb i neb glywed sôn amdanyn nhw wedyn, am donnau oedd yn uwch na phen uchaf goleudai, am fôr oedd yn medru torri concrit trwchus yn union fel petai'n blisgyn wy.

Twyllodd Emma nhw eto a diflannu.

Cofiwn yr ymdrech gynnar yn erbyn gwynt anarferol o finiog, y gollyngdod nad oedd eira anamserol llif Awst wedi lluwchio cymaint a hynny tua chopa'r bwlch, a'r wefr wrth weld y gwyngalch newydd pur yn diflannu i'r cymylau fel petai crib ddwyreiniol y Chuealphorn yn un o gyrsiau mawr yr Aplau.

Doedd bosib ei fod wedi diflannu mor gyflym â hynny!

Nid yw Kleff yn ymddangos ar gyfer ei apêl, mae wedi diflannu.

Ydech chi'n teimlo fod y math yma o berson wedi diflannu, neu wedi prinhau?

Mae'r Cwrdiaid yn teimlo bod llawer o addewidion wedi cael eu gwneud, ond mae'r rheiny wedi diflannu.'

Gwelodd Dilwyn Nic yn diflannu allan trwy'r drws a throdd at Ifan.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn chwilio am fachgen 15 oed sy wedi diflannu o'i gartre" ers bron i wythnos.

Ar y llaw arall, mae'r ychydig nwyddau sy'n llwyddo i gyrraedd y siopau yn diflannu ar unwaith am fod gwerth y rwbl yn disgyn o ddydd i ddydd gan beri i bawb frysio i gasglu eiddo yn hytrach na hel arian.

Ar ôl codi llaw ar bawb maen nhw'n diflannu ac fe'u gwelwn ar sgrîn mawr yn cael eu tywys o gwmpas yr adeilad.

Mae arna i ofn fod y rheini wedi diflannu hefyd.

Chwelir cymdeithasau bychain ac mae'r iaith yn diflannu yn y broses.

Mae'n tyfu mewn amser, yna'n gwanhau ac wedyn yn diflannu - dyna yw bywyd yr unigolyn.

Roedd o wedi diflannu i rwla, yn mwydro rwbath am droi rhyw feheryn at rhyw ddefaid, dôshio rhyw giât, weldio rhyw fuwch, injectio rhyw dractor a thrwshio rhyw oen.