Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

difrifol

difrifol

Canfuwyd fod yr eiddo mewn cyflwr difrifol a nododd y prif ddiffygion.

Gweddnewidiwyd y gêm gan ddiffyg disgyblaeth difrifol Nigel Jemson, capten Yr Amwythig, a gafodd ei hel o'r maes eiliadau cyn yr egwyl.

(Nid dyma'r sylwadau mwyaf difrifol ynglŷn â'r Gymraeg a gafwyd gan offeiriadaeth yr ardal, ond trafodir hynny'n fanylach yn nes ymlaen.) Os cafodd y Parchedig John Griffith, Aberdâr, y teitl 'enllibiwr ei wlad' gan y Parchedig D.

'Roedd un o bob deg â phroblemau difrifol gyda'u llygaid, dau o bob cant yn dioddef problemau gyda'r galon ac un o bob cant â'r diciâu a tharwden.

Cafodd Coleman ddamwain car difrifol ym mis Ionawr.

"Mae'r bobol yn y lle hwn yn dioddef newyn difrifol," ysgrifennodd William Booth amdanynt un tro.

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

Yr unig broblem oedd malaria, sy'n tueddu i fod yn rhemp ar dir isel, ac sy'n fygythiad difrifol i bobl fu'n byw cyhyd yn yr ucheldir.

Mae yma gofnod trawiadol o'r modd yr oedd gafael y wasg radicalaidd yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn cael ei gweld fel bygythiad difrifol gan y dosbarth llywodraethol Prydeinig a hynny nid yn lleiaf am mai yn yr iaith Gymraeg yr oedd y wasg honno yn ei mynegi ei hun.

Yn eu golwg hwy 'roedd y Diwygiad yn gyfrifol am achosi rhwyg difrifol yn yr Eglwys Gatholig.

Mae yn ganol haf yma - dyddiau poeth difrifol - ddoe gydag echdoe bron yn gant, heddiw dipyn bach o awel.

Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Mae ei eiriau yn llawer mwy pendant a difrifol yma.

Mae'r achosion mwyaf difrifol yn derbyn gofal rownd-y-cloc gan weithwyr Cronfa Achub y Plant mewn pebyll arbennig.

Mae hynny wrth gwrs yn anfantais ac yn wendid difrifol, yn arbennig felly ymhlith y bechgyn trwm.

Yr oeddwn wedi croesi bwlch mwy difrifol na bwlch Val Viola cyn i'r newydd am fy nhad ein cyrraedd.

Gwnaed ymdrech unwaith i anwybyddu stori am aelod parchus o'r sefydliad yng Nghymru a gyhuddwyd o gyflawni trosedd cyfreithiol difrifol iawn.

Dygwyd cyhuddiadau mwy difrifol yn erbyn cenhadwr Maulvi Bazaar yn fuan 'Roedd Bessie Jones wedi dod â dwy ferch Khasi, oedd bryd hynny yn ddwy ar bymtheg oed, i helpu gyda'r gwaith yn Maulvi a gofalu am y plant amddifaid oedd yn byw gyda Pengwern Jones yn y byngalo cenhadol.

Plediodd Carol Hogan yn euog i gyhuddiad o gynllwynio i gyflawni'r lladrad, ac fe'i dedfrydwyd i bum mlynedd am yr hyn a alwodd y barnwr yn drosedd difrifol.

Ni all neb wadu'r gostyngiad difrifol yn nifer Cristionogion Cymru.

Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.

Rhaid rhoi gwybod i'ch Arolygydd Iechyd a Diogelwch lleol ar y ffôn am ddamweiniau difrifol.

Ail-gychwyn ymgyrchu gyda'r gweithredoedd mwyaf difrifol yn hanes y Gymdeithas gyda difrod o ddegau o filoedd o bunnau i fastiau teledu ym Mhlaenplwyf ac yn Lloegr.

Mewn noson thematig, yn dwyn y teitl Ar yr Orsedd, fe gymerwyd golwg ddychanol ond, lle y bon briodol, difrifol hefyd ar y Teulu Brenhinol yma ar frenhiniaeth o amgylch y byd.

A yw ei seiniau mor swynol, ei mydryddiaeth mor gampus, ei delweddau mor gain, fel nad yw ei hastrusi yn wendid difrifol iawn ynddi?

Ac roedd Wyn yn amlwg yn dechrau deall, gan fod wyneb Orig yn fwy difrifol na wynebau neb arall.

(Gweler y Nodiadau isod) ii) Os yw'r ddamwain yn fwy difrifol ac os nad oes modd ymdrin â hi yn y gwaith yna fe/ ddylai'r aelod o'r staff fynd ar unwaith i Adran Ddamweiniau yr ysbyty agosaf.

Ychwanegodd Ffred Ffransis, fodd bynnag, fod gan y Gymdeithas ddau bryder difrifol:,br> 'Mae'r cynnig i sefydlu Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn sylweddoliad ymgyrch deng mlynedd gan y Gymdeithas.

Ar wahân i ddrwgeffeithiau newyn difrifol, mae'n dioddef o'r dica/ u, a rhaid iddo wisgo bandais mawr dros ei lygad dde oherwydd llid yr amrant.

Gadawyd fy mam ar ol ar aelwyd y Thomasiaid am fod ei thad yn ei beio hi am yr amser difrifol o galed a gawsai ei mam wrth ei geni hi.

Y mae hwn yn gyflwr difrifol a hynod o annymunol sy'n achosi gwres uchel iawn a gwendid llethol ynghyd ag iselder ysbryd.

Roedd ambell i label yn arbenigo mewn un math o gerddoriaeth hefyd, - Elektra a'r canu gwerin protest yn y chwedegau, Stiff a'r caneuon bachog, ffwrdd-â-hi yn y siathdegau, Factory a'r don newydd o grwpiau 'difrifol' a ddaeth yn sgil canu pync.

Fodd bynnag, mae i lawer ohonynt oblygiadau difrifol ar staff ac ar adnoddau.

Roedd yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu trin yn ysbytai'r brifddinas, a gweddill y plant yn cael gofal a gwyliau bythgofiadwy ar draeth y gwersyll.

Erbyn trydedd gêm y daith ro'n ni'n dechre ymgyfarwyddo â thywydd gwahanol mis Mai yng Nghanada, ond yn y gêm honno fe gês anaf difrifol.

Cyfaddefwyd hefyd y gallai'r clafr achosi problemau masnachol difrifol i ffermwyr ac i'r diwydiant lledr.

Mae'r heddlu'n trin y mater fel un difrifol ac mae eu hymoliadau'n parhau.

Ar yr un pryd, mae maint a chyflymder newid yn rhoi herion difrifol y mae'n rhaid eu goresgyn os yw Cymru i lwyddo yn y mileniwm newydd.

Chafodd neb ei anafu'n ddifrifol ond nawr mae pryderon difrifol am ddiogelwch pobol sy'n byw yn agos at burfeydd o'r fath.

Am fod mesur y llywodraeth yn dymuno ehangu'r diffiniad o 'derfysgwr' i gynnwys mudiadau ac unigolion sy'n bygwth difrod difrifol yn erbyn eiddo er mwyn gwireddu amcanion gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.

Neu, yn y pegwn arall, pan fo'r amgylchiadau'n fwy difrifol þ dod â'r achos gerbron llys, doed a ddêl.

Mae yma fygythiad difrifol i'r tiriogaethau naturiol Cymraeg eu hiaith a rhaid wrth ymateb ar fyrder.

Honnid ei fod yn creu niwsans difrifol a bod ei ymddygiad yn hollol annerbyniol.

Dal i bwyso, gyda 3 mis o weithredu difrifol ddwywaith yr wythnos yn erbyn adeiladau ac eiddo'r cwmnïau teledu a'r Llywodraeth. O fewn 5 mlynedd, gwelodd dros 1,000 o aelodau'r Gymdeithas y tu mewn i waliau carchar oherwydd eu rhan yn yr ymgyrchoedd dros Sianel Gymraeg a Statws Swyddogol i'r Iaith.

Fel yr awgrymwyd uchod, y mae'n bosibl fod y firws FID, neu HIV, yn endemig yng Nghanolbarth yr Affrig ers blynyddoedd, ond heb ymddangos fel petai'n peri afiechyd difrifol yn y boblogaeth gysefin.

Mae ofn difrifol arno fo .

Yn wir, gallai pwysigrwydd cynyddol Technoleg Gwybodaeth mewn gweinyddu a chynnal busnes beunyddiol ymhob sector ddod yn fygythiad difrifol o ran hyblygrwydd corff i weithredu'n ddwyieithog, gan mai yn Saesneg yn unig yn aml y mae'r deunyddiau ar gael.

'Roedd yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol (canlyniad bron yn anochel i operasiwn radical o'r fath).

Ac wrth gwrs, yr oedd unrhyw amheuaeth ynglyn â theyrngarwch yr esgob ei hun yn beth tra difrifol.