Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

difrod

difrod

Efallai y cofiwch i Rhys Owen a Lleucu Meinir beri difrod i Swydda Bwrdd yr Iaith dros flwyddyn a mwy yn ôl.

Rhywbeth arall a anfonodd iasau llawer oerach i lawr fy nghefn i oedd gweld y papurau yn rhoi cymaint aceri o le i ychydig dywyrch a'r difrod a wnaed i ddelw garreg ond yn gwthio i gornel dalen ddiarffordd hanes am rywun yn rhoi matsen mewn dyn du o Birmingham ar ôl ei drochi mewn petrol.

Gwrthododd toreth o Gymry adnewyddu eu trwydded deledu; arestiwyd a charcharwyd llawer o genedlaetholwyr eraill am beri difrod i drosglwyddyddion.

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

Gall y problemau hyn arwain at anhwylustod, ond yn aml y maent yn creu difrod mawr neu hyd yn oed yn arwain at golli bywyd.

Ymddiheurodd am nad oedd yno pan gyrhaeddodd, ond sicrhaodd ef hi nad oedd hynny o bwys am mai tu allan roedd y difrod.

Rhaid inni gofio na ŵyr amryw o amaethwyr ieuainc a thirfeddianwyr heddiw fawr ddim am y difrod a achosai cwningod gynt.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Damwain tancer y Sea Empress yn Aberdaugleddau yn creu difrod i draethau a bywyd y môr.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Llifogydd yn creu difrod yn nghanolbarth Cymru a Chaerdydd.

Yn ddiweddar rydym yn dechrau sylweddoli mai dim ond gyda mwy o ddealltwriaeth o'n moroedd y gallwn ni obeithio darganfod llawn faint y difrod sydd wedi, ac sydd yn parhau i gael ei wneud.

Yn y gynhadledd cytunwyd ar ddau dealltwriaeth, un ohonynt ar Newid Hinsawdd sy'n ymdrech i reoli y difrod i'r atmosffêr, a'r ail yn Ddealltwriaeth ar Amrywiaeth Bywydegol (Biodiversity) - sy'n clymu llywodraethau'r Byd i amddiffyn ein rhywogaethau lu.

Mae'n anhygoel i rywun o'r tu allan weld y difrod aruthrol a chlywed y difrod yn digwydd - y gynnau a'r bomiau a'r shells.

Ail-gychwyn ymgyrchu gyda'r gweithredoedd mwyaf difrifol yn hanes y Gymdeithas gyda difrod o ddegau o filoedd o bunnau i fastiau teledu ym Mhlaenplwyf ac yn Lloegr.

Yn ystod yr wythdegau yn arbennig, sylweddolwyd bod rhaid ymateb i'r difrod a achoswyd gan yr amaeth newydd hwn i'r amgylchfyd.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar gais y tenant am gyfraniad gan y Cyngor tuag at gost difrod a achoswyd i'r carped a phapur ar y wal o ganlyniad i ddŵr redeg i'r tŷ o dan y drws.

Eu trosedd oedd peri difrod i ysgol fomio ar Benrhyn Ll^yn, a osodwyd yno yn groes i fwyafrif clir o bobl Cymru, a mwyafrif llethol pobl Ll^yn.

Fodd bynnag rhaid ystyried yn ofalus leoliad y defnydd sydd yn creu gwaith, yn arbennig yn y Parc Cenedlaethol fel ag i beidio creu difrod i nodweddion naturiol yr amgylchedd.

Bom yn creu difrod yn Canary Wharf, Llundain.

Am fod mesur y llywodraeth yn dymuno ehangu'r diffiniad o 'derfysgwr' i gynnwys mudiadau ac unigolion sy'n bygwth difrod difrifol yn erbyn eiddo er mwyn gwireddu amcanion gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.

Mae hyn wedi arbed llawer o bentrefi rhag y difrod a wnaethpwyd i lefydd fel Harlech, Gaerwen a Dinbych yn y 1980au.

(i) Ceisiadau am daliadau "ex-gratia% yn dilyn difrod i eiddo'r tenantiaid

Cerddwch yn ofalus drwy'r difrod ac agor y drws i'r ystafell nesaf, a dyna pryd y sylweddolwch eich bod wedi gwneud camgymeriad drwy ddewis y ffordd hon.