Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

difyrru

difyrru

Roedd hynny'n ei difyrru hi, ond gêm ddiflas iawn oedd hi iddo fo.

Difyrru neu ddylanwadu?

Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!

Mae o'n dal gyda ni, er breued ei gynulleidfa bellach, yn difyrru a goleuo cymdeithas yn hollol anfwriadol ac yn ddifalais.

Nid oedd dewis ganddynt ond cydnabod goruchafiaeth y picedwyr, gwarchod y ddau drên ynghyd â theithwyr y Cork Express a waharddwyd rhag mynd ymhellach, ac ymuno yn y canu a'r difyrru a barhaodd ar hyd y nos.

Mae'r lleoliad wedi newid erbyn heddiw a'r genhedlaeth nesa'n cael eu difyrru yn sŵn tonnau Dinas Dinlle, Aberdaron, Aberffraw a Benllech.

Byddai'n ein difyrru'n aml trwy chwarae 'Duw Gadwo'r Brenin' ar welltyn a ddaliai rhwng bôn ei ddau fawd.