Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

digalon

digalon

Adroddiad digon digalon fyddai gennyf y rhan amlaf, ond chwarae teg i JE gwerthfawrogai bopeth a wnawn a diolchai am y gymwynas leiaf.

Peth ddigon digalon yw sylwi ar yr ymgiprys am flaenoriaeth rhwng y gwahanol deuluoedd a'r cynhennu di-stop rhyngddynt a'i gilydd.

Er hynny, pan oedd o'n teimlo'n fwy digalon nag erioed o'r blaen, fe glywodd lais ei dad yn ei ddychymyg.

Paid â gwrthod, was i ne cinio digalon fydd o i mi." Diolchais yn gynnes i'm cyfaill, yn fwy felly gan nad oedd gennyf olwg am fawr o ddim amheuthun fy hun.

"Ddim hanner cymin' o flode llonge yma nawr," meddai un, "a sdim profiad o waith sa'r llonge 'da ti, a ma' gneud mastia a rhwyfe a chwche yn waith gwahanol iawn i 'neud rhacane a phladurie a dryse a cherti." Digalon iawn.

.' Ac yn araf a digalon (yn ogystal â sychedig) ymlusgodd pawb tua'r traeth.

TELEDU: (O dan hyn i gyd) Felly mae'r tywydd yfory am barhau yn ddiflas a digalon iawn dros y rhan helaethaf o'r wlad.

Ond yn wir, ni wyddai ba un oedd galetaf, gweled Wiliam yn cychwyn i ffwrdd, ai ei weled yn dyfod adref bob nos yn surbwch a digalon.

Er bod job hir a digalon o'i flaen o, mi fydda fo wedi hen orffen ymhell cyn i ddymuniad y sloganwr gael ei wireddu.

Ymhell cyn canol y bore yr oedd hi'n tywallt hen wragedd a ffyn, a minnau'n mynd yn fwy digalon bob munud.

Edrychai'n lliprynnaidd a digalon, a dychwelodd fy nghyfarchiadau mewn llais dwys ddifrifol.

Dyna le digalon!

Roedd y cynigion i gyd yn y cywair lleddf; roedden nhw i gyd yn ddigalon, ond digalon yn gyffredinol ac nid dim ond digalon ynghylch Cymru, ac roedd hynny'n rhyw fath o gynnydd.