Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

digwyddai

digwyddai

Nid yn union fel hyn y digwyddai pethau bob amser, wrth gwrs.

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

Roedd hi'n amhosibl adnabod y cynhwysion gan mor gyflym y digwyddai popeth, a'r crochan fel pe bai yn codi lathen neu ddwy o'r llawr i'w derbyn.

Yno y digwyddai popeth.

Mi wn eich bod chi yn blant da, ac yn gwneud eich gore, ond arnaf i y mae popeth yn dibynnu, os digwyddai rhywbeth i mi, dyna ni i gyd yn dioddef.

Ond yn achlysurol digwyddai rhywbeth i droi'r fantol, gan effeithio ar bawb a phopeth yn y swyddfa, oblegid doedd Rhian ddim yn un i ddioddef yn ddistaw.

Digwyddai fod yn Eglwyswr ac yn aelod yn Eglwys Llanfihangel-ar-arth.

Ac y mae'r un peth yn wir gyda'r Llydaweg, gyda rhai enwau teuluoedd hyd yn oed, oherwydd os arferai Llydawyr briodi merched o Sbaen, digwyddai rhywbeth tebyg yn Llydaw hefyd.

Byddai yna ffolantau 'salw' a digwyddai rhain rhwng dau lle byddai'r garwriaeth wedi peidio bod am rhyw reswm neu'i gilydd.

Byddai'n mynd dipyn yn grac wedyn pe digwyddai rhywun ganmol yn ei glyw y gân 'Cofio'.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Ambell dro, digwyddai fod rhywun o wyr cyhoeddus y Rhos heb siarad mor barchus am yr Herald ag y teilyngai, ym marn y golygydd, a gwae y creadur hwnnw, yr oedd llach y golygydd arno.

Pe digwyddai hynny fe'm bwrid i ganol y niwl ar unwaith.

Arferai gario oriawr â larwm arni ac os digwyddai'r pregethwr fod yn un hirwynt ni fyddai'r oriawr yn fyr o'i atgoffa.

Pe digwyddai iddo ddigio carfan o'i braidd yna disgwylid iddo ymadael â'i eglwys a chwilio am fugeiliaeth arall.

Gallech fentro y digwyddai dau beth bob tro y cyfarfyddai'r dosbarth hwnnw.

Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.

Digwyddai hyn fel arfer pan geid cyfuniad o dair ffactor: cyni economaidd siom y dosbarth swyddogol yn eu disgwyliad am ffafrau o law eu harglwyddi, a rhyw ddrysu neu lacio ar y cwlwm gwrogaeth rhwng yr arglwydd a'i wŷr.

Digwyddai fod gwraig y tŷ lle yr arhoswn yn un dda am drefnu popeth.

Ar nifer o'r mordeithiau hynny, os digwyddai anhap neu salwch i un o'r teithwyr, Doctor Jones, yn rhinwedd ei swydd, fyddai meddyg swyddogol y llong.

Taflent eu golwg weithiau i gyfeiriad y ffordd yn y gobaith y digwyddai rhywbeth.

Yr oedd yn rhaid i'r lle fod o fewn cyrraedd i'r mynydd, oherwydd ar y mynydd y digwyddai damweiniau i'r dringwyr, ac ar y mynydd yr âi dringwyr ar goll.

Nid yn aml y digwyddai hynny, ond mawr oedd fy llawenydd pan ofynnid i fy nhad wrando ar ein hadnodau.

Digwyddai'r pethau rhyfeddaf ambell dro.

Un flwyddyn pan oedd y plant yn iach a hapus digwyddai'r Nadolig fod ar y Sul ac yr oedd canu carolau i fod yn y Capel.

' Digwyddai fod y torrwr beddau'n gweithio'n hwyr ac yn gorfod saethu carreg fawr cyn y gallai orffen agor bedd.Does braidd dim na all gwrachod ei wneud.

Eisteddai'r hen ddynes yn syth fel gard yn ei gwely gan hoelio'i llygaid arna i, Os oedd hi'n marw, nid heno y digwyddai hynny, doedd dim sicrach.