Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

digwyddais

digwyddais

Yma, hefyd, yr oedd aelodau ar fin gadael, y digwyddais alw yn ystafell y merched, a gweld mor gymen a thwt yr oedd popeth wedi ei drefnu ym mag dillad Nesta.

Cyn gynted ag y daeth y geiriau allan o'm ceg digwyddais ddal llygad Robat John.

Digwyddais alw i mewn y diwrnod o'r blaen - a rwyn ymddiheuron gyhoeddus yn awr i'r ddau tu ôl i'r cownter am dorri ar draws eu sgwrs trwy holi am gopi o Restr Testunau Eisteddfod Dinbych y flwyddyn nesaf - a chael yr ateb, Dydyn nhw ddim allan eto, gan un o'r ddau.

Digwyddais fynd i ardd oedd tu cefn i dy tafarn yno, Ue yr ydoedd Stiwardiaid Gwydir, a mân foneddigion eraiU o Lanrwst yn cydyfed cwrw.

Wrth i mi ddod o Woolworths Bangor digwyddais gyfarfod a Huw, yr unig hogyn yn ein dosbarth Ysgol Sul erstalwm.

Ond mewn cae rhwng y siop a Stanley Buildings digwyddais ddal sylw ar ferlan ddu yn tynnu car fflat, a deall gan ffrind ei bod yn perthyn i 'Hugh Williams joinar' ac yn danfon eirch liw nos i Bendyffryn (sanatoriwm yr adeg hynny).