Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dileu

dileu

Gwyddai pa anghyfiawnderau yr oedd am eu dileu, ond pa fath o gyfundrefn a fedrai weinyddu'r chwyldro?

Byddai eu hôl i'w weld am ugain mlynedd o bosibl, ond ni fyddai dwst gwyntoedd yr anialwch yn hir cyn dileu ôl traed y camelod.

Y mae'r Pwyllgor am weld cryfhau'r bartneriaeth honno yn y dyfodol, nid ei dileu.

A'r dyrnodau wedi dileu'r meddyliau a'r atgofion rhyfedd.

Yr hyn sy'n syndod yw, er fy mod yn bendant y dylid dileu hormonau hybu tyfiant ar BST, mae'n ymddangos bod y farchnad gig cywion yn tyfu a datblygu er ei bod yn wybodaeth gyffredinol bod hormonau tyfiant ym mwydydd y cywion ieir.

Gellir dileu llythrennau hefyd trwy osod y cyrchwr i'r dde o'r llythrennau a phwyso DELETE (neu BACKSPACE).

Efallai y byddai Mr Thomas yn gwneud gwell chwarae teg ag ef ei hun petai'n dileu'r bennod hon neu ei hailysgrifennu o'i chwr - ar ôl iddo ddarganfod dull priodol i drafod y dystiolaeth.

Mae'r hen fyth ynglyn ag arthreitus yn mynd i gael ei dileu.

Mewn achosion o'r fath bydd y Cynhyrchydd yn hysbysu Equity cyn dileu neu ohorio.

Gresyn o beth na fyddai y llywodraeth wedi gweld yn glir i dderbyn y gwelliannau a fyddai wedi dileu'r amheuon uchod.

Dywed rhai mae pendraw'r broses a argymhellir fydd dileu'r rheithgor yn gyfangwbl.

Golygai'r cytundeb `INF' y byddai taflegrau niwclear canolig yn cael eu dileu, gan gynnwys y rhai oedd wedi bod yn destun protest cyhyd yng Nghomin Greenham.

Trwy gyhoeddi'r mesurau yma fe gyfaddefodd y llywodraeth fod mwy o achosion o'r clafr ers dileu'r orfodarth i drochi defaid.

Pe byddai'n genedl byddai'n parhau wedi'r dileu'r wladwriaeth fel y parhaodd Cymru a'r Alban yn genhedloedd heb wladwriaeth.

Y mae'n ddi-os i'r fersiwn Saesneg ennill mewn urddas trwy'r diwygio hwn, ond colled fu dileu bywiogrwydd a naturioldeb Saesneg Tyndale.

Yn ofer y ceisiai Cynnydd ei dileu:

Mynnodd Sam imi ei ddileu, a bu'n rhaid dileu brawddeg gyfan oherwydd hynny.

Y maent hefyd yn dileu ambell ddarn a oedd yn debyg o beri tramgwydd i'w cyfoeswyr hwy.

Os byddwch yn pwyso DELETE (neu BACKSPACE) bydd y testun yn symud yn ôl i fyny un llinell (oherwydd eich bod wedi dileu y gorchymyn RETURN).

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

Yn ail, dydi gwadu baich yr ymgyrhcu dros yr iaith ddim yn dileu y baich hwnnw'n syth.

Y mae'r Papur Gwyn yn cynnig dileu'r Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, gan symud holl staff y Pwyllgor i weithio o fewn adran Gymraeg yr Awdurdod Cwricwlwm ac Asesu i Gymru.

Fodd bynnag, ar yr ochr gadarnhaol, ceir posibilrwydd o chwyldro mewn arferion gwaith sy'n dileu'r angen am y rhan fwyaf o'r teithio y mae ei angen ar hyn o bryd i gyflawni gwaith yr Adran.

Mae mawr angen ailysgrifennu'r bennod ar Feibl Morgan Llwyd, neu ei dileu.

Diau bod rhesymau cymhleth am hynny, ond gyda golwg ar byllau afon dylid cofio fod y nodweddion a enwyd gynt hwythau yn cael eu dileu, gan gynlluniau traenio sy'n golygu clirio a dyfnhau rhedfa'r afon.

Ac yn olaf, daeth rhyw wag ysgwyd llaw â thad ei blant, dileu 'Hilberson' ac ychwanegu 'Hilda'.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

Yn bennaf gwerthid yr anifail cyn i'r hormonau gwblhau eu heffaith a'u dileu o gorff yr anifail.

Mae hyn yn dileu'r geiriau a'u gosod ar y Clipfwrdd.

Mewn ardaloedd eraill, megis cymoedd y de lle mae'r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gellir rhagweld y byddai dileu cyfrifoldeb strategol yr awdurdod lleol yn llesteirio'r fath dwf yn y dyfodol.

Hynny yw, yr oedd dileu Cymru fach gan Brydain Fawr yn rhan o'r cynllun Rhagluniaethol.

c) Cyffelybiaeth arall sydd eto'n perthyn i drosiad y rhyddhau yw cyfeiriadau at Grist yn dileu dylanwad Adda.

Gohirio, Cwtogi a Dileu

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â dileu'r gwasanaeth tren olaf o Bwllheli a datganwyd bod hynny'n creu anawsterau i ddefnyddwyr lleol.

Y cam cyntaf oedd ceisio dileu unrhyw agweddau negyddol tuag at yr iaith.

Nid ydym yn barod i ddioddef Llywodraeth sy'n rheoli trwy Quangos ac yn dileu pob corff democrataidd.