Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dilwyn

dilwyn

Dwyt ti ddim yn deilwng i lyfu'i sgidie hi,' atebodd Dilwyn.

'Cymer di ofal o hwnna,' meddai Mr Williams gan droi a rhoi cip ar Dilwyn yn y cefn.

Dilynwyd ef gan ei gynffonwyr tra sleifiodd y gweddill i'r un gornel â Dilwyn ac Ifan.

Un o wrthwynebwyr y prosiect yw'r hanesydd lleol Dilwyn Miles a fu'n dadlau'n gryf nad oedd y siwrnai yn adlewyrchu'r sefyllfa yn Oes y Cerrig gyda'r cychod, er enghraifft, yn rhai llawer gwell na'r rhai a fyddai ar gael i adeiladwyr Côr y Cewri.

O'r diwedd dechreuodd Dilwyn ymdawelu.

'Gobeithio y byddan nhw'n iawn fel'na heb ole,' meddai ei fam wrth Dilwyn.

'Paid ti â meddwl dy fod ti'n mynd i osgoi cael dy gosbi am be wnest ti heddi, Dilwyn Dafis.

Yn raddol, gwasgarodd pawb a gwthiodd Dilwyn, Rhian ac Ifan eu beiciau'n araf i ben y rhiw cyn dringo arnynt a theithio'n flinedig hyd bentref y Bont, heb ddweud gair.

Wedi mynd i ben uchaf y pentref heb i neb ddweud gair gofynnodd tad Ifan, 'A be sy'n eich pigo chi'ch dau 'te?' 'Gary Jones wedi bod yn plagio Dilwyn,' oedd ateb Ifan.

Estynnwn ein cydymdeimlad mwyaf didwyll i Dilwyn yn ei alar, ac i aelodau'r teulu oedd mor dyner eu gofal dros y ddau drwy'r cyfnod anodd a thrist.

Stopiodd Dilwyn, ond gwthiodd Ifan ef o'i flaen ac allan drwy'r drws.

Dychwelodd y ddau yn fuan a ganwyd mab, Robat Dilwyn, iddyn nhw yn 1983.

Torrodd y llinyn brau a fu'n cadw rheolaeth ar dymer Dilwyn.

Ond 'na fe, be all e'i wneud yn wyneb eu deddfe Nhw?' Gyda hyn, trodd Mr Williams drwyn y cerbyd i fyny'r rhiw at gartref Dilwyn a bu tawelwch hyd nes iddo stopio y tu allan i ddrws ffrynt Llwyngwern.

Llusgodd Dilwyn ei hun o'r cefn wrth i'w fam agor y drws.

Ddim yn licio'r gwir pan glywi di e.' 'Edrych 'ma gw'boi,' roedd dwylo Dilwyn allan o'i bocedi bellach, 'dyweda di un gair arall am Rhian ac mi ladda i di, fel y dywedais i'r noswaith o'r blaen.'

Dechreuodd Dilwyn ymlacio wrth gael ei gefnogwyr o'i gwmpas.

'Allwn i ddim stopio'n hunan,' meddai Dilwyn yn dawel, 'unwaith roeddwn i wedi dechre.' 'Mae'n dda iawn bod Nic a finne wedi dod 'na 'te.

Wnaethon nhw ddim dweud mai eu rhestr Nhw oedd hi ond roedd Sam yn dweud ei bod hi'n eitha siwr mai dyna beth oedd hi.' Ar hyn tawelodd Dilwyn wrth weld Gary'n nesu tuag atynt ac yn eistedd ar y gadair wag yn ei ymyl.

Bu gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Santes Fair dan arweiniad y Rheithor Dilwyn Roberts ac yn dilyn yn yr Amlosgfa Bae Colwyn.

Ceisiodd gerdded heibio i Gary tua drws y toiledau, ond camodd hwnnw'n gyflym wysg ei ochr a chafodd Dilwyn ei fod rhyngddo a'r drws.

'Dere,' meddai Ifan a'i law yn dal ar fraich Dilwyn, 'mae Dad wedi cyrraedd.' Cododd y ddau a ffarwelio â'u ffrindiau cyn camu tua'r drws.

Meddwl oeddwn i fod pobl 'run fath â ti, rwyt ti'n gweld, bob amser i'w cael mewn tai bach - cachgi yn y cachdy, fel petai.' 'Mae'n ddrwg 'da fi nad oes gen ti ddim byd gwell i'w wneud, Gary, na'm dilyn i o gwmpas y lle, ond mae gen i.' Gwyddai Dilwyn ei bod yn rhaid iddo gadw'i dymer, beth bynnag a ddywedai'r cythraul hwn.

Welais i 'rioed ferch â chymaint o "awydd" â'ch Rhian chi.' 'Caea dy geg, y mochyn!' Ymsythodd Dilwyn wrth droi at Gary a chau'i ddyrnau ar ei lin.

gofynnodd Dilwyn.

Gwraig Jac Daniels, mam Robat Dilwyn, merch Dil a Bet.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Mi gyfrannwyd yn helaeth ganddi yn ei chymdogaeth gyda Dilwyn, mi sefydlwyd y 'Clwb Strôc' ym Maesteg, roedd hi'n weithgar gyda Ffrindiau'r Ysbyty, yn aelod o'r Olwyn Fewnol, ac yn un o'r rheini oedd yn gofalu am yr anghenus a thlawd bob Nadolig o dan nawdd y Cyngor Eglwysi.

Roedd Dilwyn ac Ifan wedi colli'u gêm o dennis bwrdd ac aethant i eistedd a gwylio'u gwrthwynebwyr buddugol yn chwarae yn erbyn Nic a Dylan.

'Paid!' sibrydodd Ifan eto, wrth i Dilwyn ymsythu, 'Nid dyna'r ffordd.' Wedi distawrwydd am rai eiliadau, atebodd Dilwyn mewn llais nad oedd fawr uwch na sibrydiad, 'Cer o 'ma'r bwllwch.

Edrychodd Dilwyn arno'i hun yn y drych.

Cariad pob Comi a Nash yr ochr 'ma i Glawdd Offa, boed e'n ddyn neu'n ddynes.' Gwthiodd Dilwyn ei ddwylo'n ddwfn i'w bocedi a chymryd anadl ddofn cyn troi i wynebu Gary Jones.

Gwelodd Dilwyn Nic yn diflannu allan trwy'r drws a throdd at Ifan.

Kingsley Amis, Syr Charles Evans, Glyn Evans, Marie James, Dilwyn John, Geraint Morgan, Alun Pask, Myfanwy Talog, Meirion Roberts, Syr Cenydd Treherne, Emlyn Williams (NUM), Gwyn Alf Williams, Harold Wilson, Rose Kennedy, James Herriot a Kenny Everett yn marw.

'Nawr, nawr, paid â gadael i'r gwir dy boeni di.' Cododd Dilwyn un o'i ddyrnau ond disgynnodd llaw Ifan yn drwm ar ei fraich a'i rwystro.

'Pryd ddywedaist ti y byddai dy dad yn dod heibio?' gofynnodd Dilwyn.