bod i elfennau addysgol fel iaith a diwylliant werth parhaol i fywyd dinesig ar ôl gadael ysgol; Cydbwysedd - drwy amcanu i ymestyn y dysgu ymhellach na'r gofynion arholiadol ee.
Gellir honni'n eithaf ffyddiog mai'r profiad dinesig yw'r profiad mwyaf naturiol o fywyd heddiw.
Yn ychwanegol at hynny yr oeddent dros y blynyddoedd wedi llwyddo i gadarnhau eu hawliau crefyddol a dinesig mewn cyfres o ddyfarniadau ffafriol yn y llysoedd barn.
Nid yn unig yr oedd heb ganolbwynt dinesig a grisialai ymdeimlad o genedligrwydd; yr oedd heb drefi o unrhyw faint.
Rhaid oedd ymchwilio iddynt, ond,wrth wneud, ni ddylid peryglu rhyddid dinesig y cynulleidfaoedd.
Erbyn hyn, yn arbennig trwy gyfrwng y teledydd a pheiriannau chwarae tapiau a recordiau, y mae rhyw fath o brofiad dinesig yn bell- gyrhaeddol iawn.
ehangu terfynau ein diwylliant Cymraeg, ystwytho a chymhathu ein Cymreigrwydd i gynnwys a mynegi'r gwareiddiad dinesig diwydiannol yr ydym yn byw ynddo heddiw.
Gydol ei oes gyhoeddus, hefyd, dadleuodd bod anufudd-dod dinesig yn anorfod yn y frwydr genedlaethol yng Nghymru.
Felly doedd dim osgoi ar ddulliau o anufudd-dod dinesig.
dyletswydd gwyr fel Mr Llywelyn-Williams na wyddant ddim am y bywyd gwledig yw sgrifennu am y traddodiad dinesig a diwydiannol y gwyddant amdano.
Ceid ynddynt gadarnhad o'r hyn a wyddai'r Dirprwywyr dros Godi Eglwysi a'r Gymdeithas Adeiladu Eglwysi, bod diffygion argyfyngus yr eglwys a'r ysgolion yn nodweddiadol nid yn unig o ardaloedd dinesig, ond yn gyffredin trwy ardaloedd gwledig Lloegr a Chymru.