Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dinesydd

dinesydd

Sylwer ar y ddau osodiad: (a) dylid cymryd penderfyniadau mor agos ag sy'n bosib at y dinesydd - ac mae ystyr y gosodiad hwnnw'n glir; a (b) dylid gwneud hynny yn unol ag egwyddor subsidiarity, ond dichon y geilw'r egwyddor honno am esboniad.

Daeth y syniad am y 'dinesydd defnyddiol' yn gyfarwydd i wladweinwyr, sef y gwr cyffredin a allai wasanaethu'r wladwriaeth mewn sawl ffordd am ei fod yn llythrennog ac yn fwy hyblyg o'r herwydd, â'r gallu i fyw a gweithredu y tu allan i'w gylch pentrefol traddodiadol.

Yn wir, yn amser yr Archesgob Laud, canmolwyd y sawl a wnai hyn fel dinesydd cyfrifol a Christion da.

Yn nyddiau'r Ymerodraeth Brydeinig gallai Cymro a oedd a digon o fynd ynddo gychwyn bywyd newydd ymhle bynnag yr oedd y faner Brydeinig yn cyhwfan, nid fel ffoadur nac fel ymfudwr, ond fel dinesydd o'r iawn ryw.

Ond sut brofiad go iawn ydi byw fel dinesydd cyffredin yn yr LA ofnadwy 'ma?

Felly, wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd ymlaen - y syniadau am y dinesydd modern, buddiol neu am y genedl fel cwlwm o werthoedd yn ennill tir, gwelwn wrthdrawiad cymhleth rhyngddynt a hynny'n esgor ar nifer o batrymau addysgol yn ôl natur y wladwriaeth a datblygiad y broses foderneiddio.

Fel dinesydd yr ystyriant y person dynol yn y lle cyntaf, a chyfrwng i borthi mawredd y wladwriaeth yw'r gymdeithas genedlaethol.

Dinesydd o Brydeiniwr yw pob Cymro fel deiliad o'r wladwriaeth Brydeinig.

Nid yw'n berthnasol i les y dinesydd eithr i falchder gwladwriaethau mân a mawr.