Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dinistr

dinistr

Nid oedd yn flwydd oed pan gollodd ei dad ynghyd â'i ddau frawd hynaf yn y dinistr a fu pan dorrodd dŵr i mewn i waith glo Argoed.

Wedi nesa/ u at ddinas enwog ei genedl a chael cipolwg arni o un o'r llethrau cyfagos ni allai lai nag wylo wrth feddwl am y dinistr a fygythiai ei heddwch (Luc xix.

Hwn oedd uchafbwynt y dinistr a'r hoelen farwol yn arch yr hen gymdeithas gynefin gymdogol.

Oblegid creodd gatrodau o feirchfilwyr arfog, a wibiai'n gyflym ar draws gwlad gan beri dinistr i filwyr traed araf y Saeson.

Yn sydyn, sylwodd ar rywbeth yn disgleirio ymhlith y dinistr.

Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.

Mynnwn fod cymunedau Cymru a'r iaith Gymraeg angen grym deddfwriaeth gynradd i ateb gofynion eu lles gorau ac i herio'r anghyfiawnder a'r dinistr sydd wedi ein caethiwo fel cenedl gyhyd.

Ni sonnir amdano yn chwedl Culhwch ac Olwen ac ym Mrut Sieffre o Fynwy yr ymddengys gyntaf yng nghymeriad y bradwr a dwyllodd Arthur gan ddwyn dinistr ar y deyrnas.

I ddechrau, dywed rhai fod cyfnod o ddatblygiad economaidd chwim yn anhepgor ar ôl dinistr rhyfel; a bod hyn, yn enwedig yn Ewrop a Japan, wedi bod yn sbardun canolog i dwf economaidd.

Sylweddolodd J. M. Edwards fod dyn bellach yn defnyddio technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi.

Dinistr ar ddinistr ddaeth Ddu afradwyllt ddifrodaeth.

Sylwant ar y dinistr sy'n digwydd ym mywyd Cymru heddiw, ac ar yr esgeuluso ar gymunedau a'r gwrthwynebiad i'r iaith Gymraeg, a defnyddiant yr iaith Gymraeg a delweddau Cymreig yn eu gwaith.

Testun tosturi yn peri tristwch hyd boen yw gweld darn o wlad yn wynebu difodiant ei hiaith a dinistr ei diwylliant a thranc ei chymdeithas a'i harferion a'i ffordd o fyw.

Edwards fod dyn bellach yn defnyddio technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi.