Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diniwed

diniwed

Mae ambell i greadur bach eithaf diniwed, eithaf clên a charedig yn mynd yn rêl cingron pan ddaw o i'r capel.

Ymosod mewn gwaed oer ar rywun hen, diniwed, diamddiffyn.

Bu gwraig y Gweinidog Wesle yn ddigon diniwed i ofyn, "Pa bryd gaf fi lo, Mr Thomas?" A'r ateb!

Prin y ceir dim harddach nag ysgyfarnog fechan newydd ei geni pelen feddal o gynhesrwydd gyda'r llygaid mawr diniwed hynny sydd fel pe'n gyfarwydd ag oes o dosturio.

Er na chyhoeddwyd pryddest 'Mab y Bwthyn' gan Cynan hyd Eisteddfod Caernarfon ym 1921, mae'n rhoi hanes yr hyn a ddigwyddodd i filwr diniwed o L^yn o'r cyfnod pan ymuna â'r fyddin hyd at ei ymateb i'r gyflafan yn ffosydd Ffrainc.

Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.

Mae'n wir fod rhai o'r credoau y daethom ar eu traws yn ymddangos yn ddigon diniwed, megis y gred gyffredin fod maes magnetig y ddaear yn peryglu iechyd pobl ar ddiwrnodau penodol ym mhob mis, a'i bod hi'n well peidio a gweithio'n rhy galed bryd hynny.

Hen ferch seml a diniwed oedd hi, ac nid oedd yn debyg i'w brawd Abel mewn dim ond yn ei ffyddlondeb a'i charedigrwydd.

Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.

Wedi imi godi fy aeliau esboniodd mai'r mwyaf diniwed o ddau ystyr Saesneg y gair "jump" oedd ganddo dan sylw!) Fel y bo dydd Calan, felly fydd y flwyddyn.

Mae'r demtasiwn yn fawr a'r claf diniwed ac anwybodus, druan, yw'r un sy'n dioddef bob tro.

Ni ddylid gadael i ddynion a merched farw yn yr anialwch, nac i gannoedd o filoedd o ddynion, merched a phlant diniwed gael eu lladd a'u niweidio.

Storiau bach digon diniwed - rhai ohonynt wedi eu dyfeisio gan y deudwr fyddai'r storiau hyn, a'r gweinidog bron bob amser fyddai yn beirniadu.

Y cam cyntaf yw sefydlu Ysgol Sul a chyfrwng y diwygiad hwn yw ei swyn diniwed sydd yn ei galluogi hi i oresgyn ceidwadaeth yr hen werinwyr.

Ni cheisiodd neb ei droi'n Fwslim; ystyrid ef yn rhyw fath o wirionyn, diniwed os nad sanctaidd, fel y cannoedd a oddefir yn y byd Islamaidd o ben bwygilydd.

Pa fath o gymdeithas oedd yn caniata/ u i leiafrif bychan fwynhau'r holl gyfoeth tra bod y trueiniaid diniwed hyn yn diodde'r fath ganlyniadau barbaraidd?

(Gellid dadlau fod y cyfeiriad at Fair yn awgrymu'r atgyfodiad ac felly'r bywyd tragwyddol sydd i enaid Siôn, ond ni allai hwnnw fod yn fwy nag awgrym cynnil.) Fe ddichon fod y bardd yn credu y byddai'r plentyn diniwed yn mynd yn syth i'r nefoedd, ac nad oedd angen ei weddi yntau arno, ond yr un mor bwysig â diwinyddiaeth y bardd yw'r olwg ar farwolaeth a gyfleir yma.

Gweithred ddigon diniwed ond un a gynddeiriogodd rhyw bwt o heddwas yn arw.

Achos yn y chwedegau diniwed y Galaxy Dark Room Test oedd pinacl trachwant pobl ifanc gallem dybio.

Nid anghyffredin oedd gweld ysgarmes rhwng y Koreaid a'r Siapaneaid, a hwythau wedyn yn dial arnom ni, drueiniaid diniwed !

'Doedd pob plentyn yn cael sanau glân bob dydd, ac er fod y nhad yn gwneud jôc am bob math o bethau, fydda fo byth yn gwneud jôc am blant bach diniwed.