Dyma sut y dychmygodd Stephen Spielberg yn ei ffilm Jurassic Park y gallai dinosoriaid gael eu hail-greu heddiw - drwy ddarganfod beth oedd y wybodaeth enetig yn eu DNA, ac yna trosglwyddo'r wybodaeth enetig yma i wy anifail arall.
I ddychwelyd at deitl yr erthygl, a'r dinosoriaid diflanedig, nid yw'r esblygu sy'n digwydd ym myd natur mor hawdd ei ddeall â'r amcanu syml a geir yn yr algorithm genetig.
Ym myd natur ceir enghreifftiau syfrdanol o greaduriaid sydd wedi llwyddo i ymaddasu i'w hamgylchedd yn ogystal ag olion y rhai a fethodd, megis y dinosoriaid diflanedig.
Pwy a ŵyr, efallai mai dyn fydd dinosoriaid diflanedig y dyfodol, wedi esblygiad pellach y cyfrifiadur!