Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diogelwch

diogelwch

Diogelwch Os gwelwch yn dda rhowch wybod i'r cynorthwy-ydd labordy (neu un o'r tiwtoriaid) pan fyddwch yn defnyddio'r labordai a pheidiwch a gweithio yno ar eich pen eich hun os oes unrhyw berygl yn debygol o godi o'ch gwaith.

Cadarnhawyd fy mhryderon ar ôl i ni fodloni'r swyddogion diogelwch â'u cyfarpar electroneg.

Gwaetha'r modd, ni roddid ystyriaeth ofalus i fesurau diogelwch ar y llongau, ac roeddent yn cael eu gorlwytho'n ddychrynllyd yn aml.

Un o brif amcanion Polisi Diogelwch y Gymdeithas yw atal tân yn effeithiol.

Wedi cyrraedd diogelwch y mur wrth gefn y ffynnon gwnaethant yn siŵr eu bod yn gwybod ym mhle'r oedd y tyllau yn y muriau fel y gallent wylio drwyddynt.

Yma, fwy neu lai, roedd yr 'hafanau diogel' a sefydlwyd ar awgrym John Major er mwyn ceisio gwarantu diogelwch y trigolion.

Hon oedd y Swyddog Diogelwch Fferm a'r Ddynas Seffti.

Golyga y gall grwpiau Cymorth i Fenywod gynnwys yn y dyluniad nodweddion nad ydynt ar gael mewn tai i anghenion cyffredin, megis ystafell chwarae, mwy o ofod ystorio, mesurau diogelwch ychwanegol ac ystafelloedd gwely mwy ar gyfer teuluoedd gwely mwy ar gyfer teuluoedd cyfan.

Fe honnodd mai "datganiad clyfar" ond disylwedd oedd cyhoeddiad diweddar y llywodraeth ynglŷn â diogelwch.

Hwn oedd y ciw ar gyfer y peiriant pelydr-X, a chamgymeriad oedd i ni siarad â'n gilydd yng ngwydd y swyddogion diogelwch.

"'Dyw e ddim yn edrych yn lle mawr, Beti," meddai wrth ei wraig, "ond maen nhw'n dweud fod mwy na'i hanner e o dan ddaear - er mwyn diogelwch pe bai rhyfel yn dod, wrth gwrs." "Pe bai rhyfel yn dod, Idris?

Dibynnant lawer am eu diogelwch ar gyfeiriad neu drawiad y gwynt ac ar eu gallu i arogli gelyn cyn iddo'u goddiweddyd, yn fwy felly nag ar eu llygaid, sydd wedi'u lleoli ymhell yn ôl ar ochr y pen.

Yng nghwrs y blynyddoedd fe gostiodd ffortiwn i'w saethu, ei raffu a'i lanhau er mwyn sicrhau diogelwch y dyniori a weithiai yn yr ugeiniau o fargeinion o'i ddeutu ac o tano.

Bydd peilotiaid Americanaidd bob amser yn croesi gwregysau diogelwch ar seddau gwag yn yr awyren er mwyn plesio'r ysbrydion anhysbys.

ii) cymryd diddordeb uniongyrchol personol mewn rhaglenni iechyd a diogelwch, ac yn cefnogi'n gyhoeddus bob person sy'n eu gweithredu;

o eitem lO: Cytunwyd nad oedd y mesurau diogelwch ychwanegol yn yr adeilad ym Mlaenau Ffestiniog yn wir berthnasol i'r Ganolfan Gynghori.

Gohirwyd cwrs ar Iechyd a Diogelwch gan obeithio'i drefnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

i) ymgyfarwyddo â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a Chôdau Ymarfer Iechyd a Diogelwch fel y maent yn berthnasol i'w rôl;

CYFARPAR DIOGELWCH (gweler Diogelwch Safle)

Gorfodaeth ar yrwyr i wisgo gwregys diogelwch.

Felly, y mae diogelwch yr epil yn sicrach o lawer mewn tir âr neu resi gardd gyfagos.

Roedd yn anodd ganddo gredu i'r tri swyddog lwyddo i gyrraedd diogelwch, ac am y dynion a adawyd ar ôl, roedd yr ergyd a glwyfodd y morwr wedi diasbedain fel dedfryd angau yng nghlustiau Dai Mandri.

Ac nid yw medru dweud Fe ddwedon ni yn rhoi dim pleser i'r rhai hynny ohonom a rybuddiodd y byddai gwasanaeth a diogelwch yn dioddef wrth i gyfundrefn drafnidiaeth gyhoeddus o'r fath droin ffynnon broffid.

iv) roi gwybod ar unwaith i'r Cyfarwyddwr neu Uwch Swyddog os yw Arolygydd Iechyd a Diogelwch yn rhoi Gorchymyn Gwahardd neu Orchymyn Gwella;

Trefniadau Diogelwch Drysau diogel sy'n cael eu rheoli gan staff, cardiau ID

Gae'r Gymdeithas yn bwriadu, trwy gynnal arolygon diogelwch, gwell Qweithdrefnau, hyfforddi a rhagweld synhwyrol gan reolwyr a gweithwyr i wneud cyfraniad sylweddol at atal damweiniau.

Os yw yn ddamwain ddifrifol mae'n rhaid ffonio'r Arolygaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid peidio ag amharu ar unrhyw beth yn y man lle ddigwyddodd y ddamwain nes ei fod wedi'i archwilio gan yr Arolygydd.

Beth sy'n digwydd i wella cysylltiadau ffyrdd a diogelwch ffyrdd yn ardal y Bedol?

Commodore oedd yr unig westy lle'r oedden nhw'n gallu gwarantu ein diogelwch ni.

Er diogelwch, y BBC yn symud eu hadran adloniant o Lundain i Fangor.

Y diwrnod cyn achub y babi bach Abbie Humphries, fe brofodd gohebwyr Golwg ei bod yn hawdd mynd i mewn i wardiau babanod yn rhai o ysbytai Cymru a bod rheolwyr iechyd wedi'u dal rhwng diogelwch a chynnig gwasanaeth.

vii) sicrhau bod pob aelod o staff yn gwybod beth i'w wneud os bydd tân, yn gwybod ble mae cyfarpar diffodd tân wedi'i leoli a sut i'w ddefnyddio os bydd angen; cymryd cyngor yr Awdurdod Tân o bryd i'w gilydd; profi'r trefniadau Dril Tân yn achlysurol trwy gynnal ymarferion (i'w trefnu gan y Cyd-Gysylltydd Iechyd a Diogelwch), a phob ymarfer i'w gofnodi mewn Atodiad i'r Polisi Diogelwch hwn;

Roedd cledd yn llaw y tri milwr wrth iddyn nhw adael diogelwch y coed a mentro i'r tir agored.

Rhaid rhoi gwybod i'ch Arolygydd Iechyd a Diogelwch lleol ar y ffôn am ddamweiniau difrifol.

iii) Ni ddylid gosod gwifrau trydanol neu ffôn ar draws mannau lle mae pobl yn cerdded heb ddefnyddio gorchuddion diogelwch addas.

Mae yna swyddogion diogelwch yn crwydro'r ysbyty trwy'r nos a'r adran ddamweiniau yw'r unig ffordd i ddod i mewn bryd hynny.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

iii) arolygu ac adolygu perfformiad, polisi%au, gweithdrefnau diogelwch cyffredinol ac ati gyda golwg ar wneud addasiadau angenrheidiol ac argymell diwygiadau, polisi%au newydd ac yn y blaen i leihau tueddiadau anffafriol;

"Mae wastad yn rhyw fath o 'daro bargen' rhwng diogelwch a chyflwyno gwasanaeth.

Felly mae'n chwilio am fachyn i gydio ynddo ac mae'n gyfleus iddo addoli Gwylan (yn hytrach na'i charu) a chofleidio'i daliadau - dros dro: wedi'r cyfan y daliadau hynny a rydd iddo'r cryfder i ddirwyn ei ddyweddi%ad â Lisabeth i ben a gwrthryfela yn erbyn diogelwch diantur ei fagwraeth.

Yn ôl ynghanol y saithdege oedd hi, adeg pan oedd y probleme gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wedi cynyddu'n arw ac roedd tim pêl-droed Lloegr eisoes wedi gwrthod mynd allan i chwarae yn Belfast am resyme diogelwch.

Yn groes i holl gynghorion y swyddogion lles a diogelwch ar y teledu roedd wedi gosod y drych yn fwriadol yn y man hwnnw fel bod pob cwmwl o fwg-taro yn melynu'r gwydr.

Dylent hefyd nodi unrhyw faterion sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Ond d oedd y Ddynas Diogelwch ddim yn gwybod hynny.

Y mae angen diogelwch a chynhaliaeth ar y ddau er bod un yn sefydlog a'r llall yn symudol oddi fewn i'w blaned ei hun.

Yn union wedi i Caradog gyrraedd diogelwch, dechreuodd yr hollt gau gan foddi sŵn ubain y corachod.

Fel yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor, y nod yw fod awyrgylch cartrefol yn creu diogelwch hefyd.

viii) sicrhau nad yw unrhyw aelod o'r cyhoedd yn wynebu peryglon iechyd a diogelwch oherwydd gweithgareddau'r busnes.

y berthynas â'r Cwricwlwm Cenedlaethol strategaethau dysgu diogelwch mewn labordai asesiadau ac arholiadau adnoddau, megis rhaglenni cyfrifiadur, tapiau fideo etc.

* Iechyd a Diogelwch

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Dywedir bod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn gwneud gwaith da yn y gwledydd cynhyrfus hyn.

Diogelwch, syr, "Security%.

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

Ar yr un pryd, mae yna bryder y gallai gormod o drefniadau diogelwch wneud yr ysbytai'n oeraidd a di groeso.

Doedd ein gyrrwr, gwr o Addis, ddim yn hapus; ni thynnodd ei droed oddi ar yr ysbardun nes i ni gyrraedd diogelwch y llety.

ii) bod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain, gan dalu sylw i ofynion y Gymdeithas a'r manylion yn y Côdau Ymarfer/Canllawiau lle bo'n briodol, gan gynnwys gwisgo dillad/cyfarpar gwarchod; iii) bod yn gyfrifol am ddiogelwch pobl eraill (boed y rheiny yn weithwyr cyflogedig neu beidio) trwy beidio â chamddefnyddio unrhyw beth a ddarparwyd er mwyn iechyd a diogelwch neu les, a chydweithredu â'r Gymdeithas er mwyn ei galluogi i gyflawni ei chyfrifoldebau ei hun yn llwyddiannus;

Trefniadau diogelwch Mae pawb yn adnabod ei gilydd ac fe fyddai bydwraig neu nyrs ffug yn cael ei gweld yn syth.

Fel y byddai yn yr Oesoedd Cynnar gartref, nid oes unrhyw dŷ unigol o gwbl wedi ei godi allan o gyrraedd diogelwch y pentref...

i) sicrhau bod y Polisi Diogelwch yn cael ei ddeall gan staff ar bob lefel, ac yn darparu hyfforddiant rhagarweiniol mewn iechyd a diogelwch i bob aelod newydd o staff, ac yn ei ategu gan hyfforddiant ychwanegol fel rhan o Strategaeth Hyfforddi hanfodol y Gymdeithas;

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

Roedd Siwsan eisoes wedi penderfynu, er mwyn diogelwch y plant yn fwy na dim, ei bod am geisio mynd 'nôl i Borthmadog.

cyflogedig i osgoi peryglon ac i gyfrannu mewn modd cadarnhaol at eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain yn y gwaith, gan gynnwys darparu dillad gwarchod personol addas.

Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Cyf hefyd yn derbyn cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch ei chleientau a'r cyhoedd.

Wrth iddo ddechrau dringo'r grisiau, gwyddai ei fod bron cyrraedd diogelwch, ond erbyn hyn roedd rhai o'r corachod wrth ei sodlau.

Mae cyfres o fideos diogelwch wedi eu cyflwyno gan Selina Scott wedi eu cynhyrchu o'n huned gorfforaethol ym Mangor.

Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.

Yn y cerbyd hwnnw yr oeddwn i, Siwsan a'r plant yn teithio, a bu'n rhaid i mi dreulio hydoedd mewn caban diogelwch wrth i swyddogion fy nghroesholi.

Iechyd a Diogelwch yn y Man Gwaith

Rhaid i bobl eraill sy'n ymweld ag eiddo'r Gymdeithas am ba reswm bynnag ac am ba gyfnod bynnag o amser ddilyn rheolau diogelwch y Gymdeithas.

Ar hyd a lled Cymru, mae rheolwyr ysbytai a wardiau mamolaeth yn edrych eto ar eu trefniadau diogelwch yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn Nottingham.

Ystyriwch hyn: os megir cywion hwyaid o dan iâr, yr iâr honno yw eu mam ac fe'i dilynant i bobman gan ddibynnu arni'n llwyr am eu cynhaliaeth a'u diogelwch; serch hynny, yn gwbl groes i ymddygiad yr iâr, ni ellir rhwystro'r hwyaid bach rhag mynd i ddŵr a nofio ynddo.