Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diolchwn

diolchwn

Mae Gwilym a Kitty Griffiths yn gefnogol iawn i lawer mudiad ym mro'r Arwydd a diolchwn iddynt am eu diddordeb hael i'r Arwydd hefyd.

Fodd bynnag, diolchwn am bob darganfyddiad a wnaed, ac a wneir o gyfnod i gyfnod, sy'n ysgafnhau ac yn cyfoethogi bywyd dyn.

Diolchwn hefyd i'r chwiorydd a fu'n gyfrifol am stondin y Tabernacl yn y Bore Coffi heb anghofio y rhai a ddaeth yno i gefnogi'r achos.

Mae Maengwyn yn ffrind i'r Arwydd o hil gerdd a diolchwn yn gynnes iddi eto am lawer iawn o bethau.

Diolchwn i Ti am gynnal y gweddill ffyddlon yng Nghymru sy'n dal i dystiolaethu i'r iachawdwriaeth yng Nghrist.

Diolchwn i Ti am ein gosod i fyw mewn bydysawd mor brydferth.

Diolchwn i'r Ysgol Sul am y croeso a'r ymdrech.

Wythnos Cymorth Cristnogol Diolchwn i bawb a gynorthwyodd gyda'r casglu o ddrws i ddrws ac am bob rhodd.

Diolchwn i Ti am yr emynwyr godidog a roddaist inni yng Nghymru.

Diolchwn i Ti am ddygyfor aflonydd y môr, am amrywiaeth yr anifeiliaid, am liwiau digymar blodau, am ffurfiau gosgeiddig y coed, am ruthr y gwynt a chryfder oesol ein mynyddoedd.

Diolchwn i Mrs Beti Emmerton am ei rhodd garedig, yr ydym yn gwerthfawrogi ei haelioni yn fawr iawn.

Diolchwn nad oedd Idwal yma.