Yn ogystal â'r feirniadaeth ar safon moesoldeb rhywiol merched Cymru, ceir llu o gyfeiriadau yn yr Adroddiadau at anonestrwydd, twyll a diota.
Fe'u beirniadwyd yn arbennig am eu hanniweirdeb a'u llacrwydd moesau, am esgor ar blant anghyfreithlon, ac am eu hanonestrwydd, eu twyll a'u diota.