Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirdynnol

dirdynnol

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

Nid oes unrhyw brofiad yn fwy ingol na gwylio rhywun yn dioddef poenau dirdynnol heb fawr ddim gobaith gallu eu lleddfu.

Felly, ni lethir y tenant yn ormodol gan ddagrau o gydymdeimlad dirdynnol dros ei feistr tir druan.

Fel llawer o wledydd sydd a phroblemau lleiafrifoedd, y mae Cymru mewn sawl ffordd yn lle dirdynnol.

Bedydd tân fyddai ymddangos dan y fath amgylchiadau i'r sawl a fu'n disgwyl ei gyfle'n amyneddgar ers tro byd, ond gallai fod yn brofiad dirdynnol i'r mwyaf swil o staff y swyddfa.

Roedd y diweddar Raymond Williams, yn fwy na neb, yn ymwybodol o'r tueddiad Prydeinig - a Chymreig, afraid dweud - i osgoi gorfod wynebu cwestiynau dirdynnol ein hoes trwy weu mytholeg briodol o'n cwmpas.

Cymerais innau fendith dros ŵr oedrannus iawn a ddioddefai gan boenau dirdynnol yn ei goes.