Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirifedi

dirifedi

Collwyd rhywogaethau dirifedi yn llwyr a gwelwyd lleihâd enbyd mewn eraill.

Mi weles hefyd aberthu geifr dirifedi mewn puja i'r dduwies kali yn Shillong, a'r gwaed yn tasgu'n goch ar gnawd a dillad defosiynol gwþr a gwragedd a phlant ac aml-freichiau nadreddog y duwies ei hun.

Yn awr, bydd disgwyl i'r wlad dywallt arian dirifedi i arbed y sefyllfa.

Ni fuasai pawb yn cytuno â'm dewis gan fod detholiad dirifedi o blu sewin ar gael, rhai wedi eu dyfeisio at wasanaeth pysgotwyr lleol.

O faes awyr Belem yng nghar y Weinerts, yna i Ogledd y dref ar hyd ffyrdd di-darmac, drwy resi dirifedi o gabanau unllawr, drwy heidiau o blant mewn trwsusau llac a festiau, a rhywle yn y fan honno, rhwng cþn a chymdogion hanner noeth, tywyll eu croen, y dyn yn y siaced law, DR.

O'r herwydd, doedd yna, yn llythrennol, ddim car yng nghyffiniau y Gaiman a Threlew nad oedd ei ffenest flaen yn graciau i gyd - wedi eu malu gan y cerrig dirifedi a fyddai'n cael eu taflu gan olwynion ceir eraill yn pasio.

Fe gerddais ocsiynau dirifedi ar drywydd llyfrau ond mae'n debyg mai'r un bwysicaf y bu+m ynddi oedd yr ocsiwn ar lyfrau Hendregadredd, Pentrefelin, ar ôl marw y Barnwr Ignatius Williams.