Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirnad

dirnad

Mae'n anodd dirnad y fath beth heddiw.

Y mae'r Cymry Cymraeg yn gallu dirnad sut beth yw bod yn Sais ond ni all Sais ddirnad sut beth yw bod yn Gymro Cymraeg.

Ac weithiau meddyliaf ein bod wrth gwyno am y cam a ddioddefwn fel Plaid, megis ynglŷn â darllediadau gwleidyddol, er enghraifft, yn methu â dirnad yn llawn y bygythiad a wnawn i lawer o'r buddiannau breiniol yn Llundain, ac fe fyddai'n achos pryder mawr i mi pe na bai'r llywodraeth ganol yn ceisio llesteirio'n cynnydd.

Anodd dirnad sut y medrodd gadw ei synhwyrau wrth gael ei gaethiwo ar ei ben ei hun, mewn tywyllwch, wedi'i gadwyno, am yr holl flynyddoedd.

Mae'r lle mor wahanol i bob man arall - 'does dim posib dirnad pa mor wahanol hyd nes yr ewch chi yna.'

Anodd dirnad y siom a achosodd y llythyr i fachgen ifanc, gorfrwdfrydig a llawn syniadau ynglŷn â gweddnewid ein diwylliant.

Yna y methu dirnad, cyn sylweddoli bod cyfeiriad eu bywyd wedi'i ddrysu'n llwyr.

Yr enaid yw eisteddle'r ddau a thrwy brofiad yr unigolyn y mae eu dirnad.

Ond hyderwn y bydd ei dôn i gyd yn gymorth i arwain y meddwl ifanc i ddeall a dirnad yn well ffyrdd a throeon bywyd, a galluogi dyn i ennill llywodraeth fwy dros ei dynged.

Dyhead dyn am gael treiddio i'r dyfodol: gwybod yr anwybod; dirnad yr annirnadadwy; rhoi ystyr i'r diystyr; gweld yr anweledig.

Y mae mor anodd gallu dirnad bellach pam yr oedd y genhedlaeth honno'n dotio clywed Christmas Evans a'i gyfoeswyr yn traethu.

Gellir dirnad y siom a'r chwerwedd yng ngwawd y rhai a watwarai Iesu, yn cynnwys y 'lleidr' (gwrthryfelwr, yn bur sicr) a waeddai, 'Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau'.

Sut bynnag, torrwyd crib y gŵr ieuanc y wers ganlynol pan fethodd yn lan a dirnad pwnc bach digon syml.

'Roedd yn anodd dirnad gan fod ei gefn ati.

Mae'n gorfod ei ailadrodd ei hun o hyd; cyfyng yw'r iaith sy'n medru dirnad yr Anfeidrol.

Wrth ddadansoddi'r cyfrifon, un nod yw dirnad achosion cyfnewidiadau.

Mae ehangder a manyldeb dy waith y tu hwnt i allu ein dychymyg ni i'w dirnad.

Bu+m yn ceisio dirnad pam y digwyddodd hynny.