Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirwyn

dirwyn

Gwynn Jones y byddai ef farw'n fuan, daeth y golomen i arwyddo bod "dyddiau fy anwylyd yn dirwyn i ben." Ni ddeallwn i arwyddocâd y golomen, ond deallasai fy nyweddi.

Fel canlyniad fe gollodd Bowser y cyfan a feddai a'r holl ddiwydiant yn dirwyn i ben.

Cyn gynted ag yr oedd y Blaid yn dechrau ymladd etholiadau ar raddfa eang, ac ar adegau yn ennill cyfran sylweddol o'r bleidlais, yr oedd ei swyddogaeth fel grŵp ymwthiol yn dirwyn i ben.

Darlunia afon Gymreig - afon bywyd os mynnwch - yn dolennu'n araf drwy diroedd bras i gyfeiriad gwawr uchelgais: ac i ble y mae'n dirwyn?

Roedd yr þyl yn arddangos nid yn unig gyfoeth cerddorol y wlad, o'r oesoedd canol hyd at Chopin, Szymanowski, ac yna gyfansoddwyr yr oes sydd ohoni, ond hefyd fryn dipn o bensaerni%aeth, drama a llenyddiaeth fodern ynghyd â hannes twf a datblygiad Pþyl yn y cyfnod comiwnyddol sydd wedi dirwyn i ben yn ddiweddar.

Doedd dim disgwyl i ddiwrnod oedd yn dirwyn i ben â dôs ddwbwl o ffiseg fod yn arbennig o bleserus i neb, hyd yn oed os oedd yn ddiwedd yr wythnos.

Yn raddol, fel mae'r llyfr yn dirwyn yn ei flaen, dengys Hiraethog ei fod yn anabl neu'n anfodlon i wynebu'r byd yr oedd yn byw ynddo.

Gwyliau i wirioneddol ymglywed â hanes ar gerdded hyd lwybrau yr hen 'ffordd sidan' fu'r egwyl yn Uzbekistan, a gwyliau i synhwyro y bydd hi a'r gweriniaethau cyfagos yng Nghanolbarth Asia yn dod gwygwy i'n sylw cyn y bydd y chwalfa Sofietaidd yn dirwyn i ben.

Dywedodd yn ystod y pryd bwyd ei fod yn gobeithio y byddai hi'n rhoi'r gore i'w gwaith ac yn dychwelyd ato, ac y gallai popeth fod yn well rhyngddynt am fod ei yrfa ef ar y môr wedi dirwyn i ben.

Ac o glywed am achosion yn cael eu dirwyn i ben yn barhaus, onid aeth gwerthiant tai Capel ac addoldai yn gryn fusnes erbyn hyn?

Fel un na welodd ond cwta ddwy bennod o'r gyfres Big Brother fydda i ddim yn siomedig o weld y gyfres wirion yn dirwyn i ben.

DYMA ni bellach wedi dirwyn i ben y drafodaeth ar gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.