Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgleirio

disgleirio

A golau cochlyd y wawr yn sgleinio ar ei wyneb ac adlewyrchiad y goleuadau blaen yn disgleirio'n wyn yn ei lygaid ymddangosai fel y diafol ei hun, meddyliodd Gareth.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

Pan ddihunodd bore trannoeth 'roedd yr haul yn disgleirio i mewn trwy ffenest agored ei ystafell wely.

Ymlaen wedyn trwy filltiroedd sgwâr o gaeau siwgwr a'r dail gwyrdd yn disgleirio efo galwyni o ddŵr yn cael eu lluchio drostynt trwy bibau anferth o Lyn Victoria.

Pan fydd goleuni'r haul neu oleuni artiffisial yn disgleirio ar ddefnydd didraidd megis y dudalen hon yr ydych chwi'n ei darllen, adlewyrchir y cyfan, bron, o'r goleuni yn ol i'r awyr, sy'n golygu y medrwn ni ei weld.

Roedd yr haul yn disgleirio ar wydr y ffenestri mawr a deuai swn lleisiau'r morynion prysur o'r gegin.

Fel pob amser yn Affrica, roedd y glaw wedi pallu yn sydyn pan oeddem yn ciniawa, roedd y sêr yn disgleirio - ac o'n cwmpas filltiroedd o ddim byd.

Yn sydyn, sylwodd ar rywbeth yn disgleirio ymhlith y dinistr.

Rhedai'r bobl yn ôl ac ymlaen, trwynau'n goch a llygaid yn disgleirio yn yr oerni.

Hwylio ar wyneb y ceudwll oeddan ni, gan edrych i fyny i ben y clogwyni lle mae trefi bychain gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul, fil o droedfeddi uwch ein pennau.

Yn y rhan hon o'r rhychwant electromagnetig gwelwn arwynebau sêr yn disgleirio.

Er nad oedd yr un o'r ddau yn disgleirio mewn mathemateg yn yr ysgol, roedd digon yn eu pennau i sylweddoli fod ffortiwn yn eu dwylo.

Daw'r gair Cymraeg glo o wreiddyn Celtaidd sydd yn golygu "disgleirio% ac efallai mai "Marworyn byw% oedd ystyr gwreiddiol y gair.

Cwn yn cyfarth, asynnod yn nadu a phobol yn rhedeg o dŷ i dŷ â'u hwynebau cyn wynned ^'r gwyngalch ar y waliau oedd yn disgleirio yn llygad yr haul.

Popeth yn disgleirio, popeth yn gweitho fel cloc, a dim plant obiti i neud nyth llygoden o'r lle!' 'Na - tynnu dy goes wen i wedyn.

Wrth syllu ar ei phlu yn disgleirio yng ngoleuni'r haul, ymddangosai'n wahanol i bob aderyn a welswn erioed:

I mi nid ymddangosai un amser yn balchi%o yn ei rinweddau ei hun; ond pan welai'r rhinweddau hynny yn disgleirio hyd yn oed mewn graddau llai yn eraill, tywynnai ei wyneb gan ddedwyddwch.

Mi gewch ddod yn ôl hefo mi ar y cwch, os liciwch chi, ac mi fedraf ddod â chi'n ôl hefyd." Yr oedd llygaid y plant yn disgleirio, a dechreuodd Deio ddawnsio o gwmpas.

Hefyd cwpan i ddal blodau, o wydr gwyn fel llaeth, oedd yn llewyrchu mewn amryw liwiau, fel tu mewn i gragen, pan fyddai goleu yn disgleirio arni.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

Roedd John Higgins yn disgleirio a manteisio ar bob hanner cyfle.

Mae digonedd o cwarts i'w weld yma eto yn disgleirio yng ngolau'r haul.

Wedi sefyll am ennyd ar stepan drws y ffrynt, yn cymhwyso'r nocar, mewn cystadleuaeth â'r gramaffôn, fe'm gollyngwyd i mewn gan y forwyn fach, â'i hwyneb yn disgleirio gan sirioldeb a sebon.

Ond gwelsom fod y coleg yn disgleirio ac yn cynnig hyfforddiant o'r safon uchaf mewn campau fel rygbi, pêl-fasged, pêl-rwyd, athletau, criced.