Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgrifio

disgrifio

Mewn brawddeg, felly, gellir disgrifio'r model a bortreadir yn Ffigur I fel model cydbwysedd rhannol, tymor byr, dau sector.

Cawn glywed rheolwyr profiadol yn disgrifio'u gwaith bob dydd.

Nid yn unig maent yn disgrifio'r afiechydon yn fanwl, ond awgrymant hefyd fwy nag un feddyginiaeth.

Mae'n disgrifio'r gwyr a ddylanwadodd arno yn Rhydychen yn ei erthygl "Ddeugain mlynedd yn ôl", sy'n dilyn yn y gyfrol hon.

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, fodd bynnag, mae'n disgrifio un weithred arwrol a wnaeth pan yn croesi Môr India.

(ii) Ieithyddiaeth Ddisgrifiadol, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a disgrifio'n syncronig, hynny yw, mewn cyfnod arbennig neu, nodweddion ieithoedd unigol, gan gynnwys iaith ardal (tafodiaith) neu ddosbarth arbennig neu hyd yn oed iaith unigolyn (idiolect); (iii) Ieithyddiaeth Gymharol, yn cynnwys cymharu dau gyfnod yn hanes un iaith neu'r berthynas rhwn nifer o ieithoedd; astudiaeth hanesyddol, ddeiacronig y gelwir y math hwn o waith ieithyddol; (iv) Ieithyddiaeth Gymwysedig.

Yr wyf wedi disgrifio nifer o amrywiaethau ac, wrth gwrs, y mae eraill.

Mae yr Athro T Gwynn Jones yn disgrifio Ynys Afallon felly yn Ymadawiad Arthur, ac yn ei gerdd Tir Na N'og nid oes heneiddio yn bod.

Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth apelgar.

Mae llyfrau'r Lolfa yn cael eu disgrifio yn y Llais Llyfrau cyfredol fel pethau iwtilitaraidd o ran eu gwneuthuriad.

cyflwynir dewis yr awdur o fframwaith cyffredinol ar gyfer disgrifio'r Gymraeg, ond cyn mynd at hwnnw, sonnir ychydig am rai o ieithyddion America ac yn eu plith, Noam Chomsky, awdur y system ramadegol a elwir Gramadeg Trawsffurfiol Cenhedol.

Gydol y rhaglen cafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan y Dr Geraint Jenkins ac Elwyn Edwards, y ddau ohonynt yn cael eu disgrifio fel awduron.

Yn y gyfrol honno mae hi'n disgrifio ac yn trafod bywyd cyfoes a bywyd a oedd wedi hen fynd heibio.

Gyda Barry John yn hynod hael ei ganmoliaeth i Arwel Thomas yn dilyn y gêm yn erbyn Samoa yr oedd yn anodd deall pam y bu Graham Henry mor grintachlyd â disgrifio perfformiad y maswr bach fel adequate yn unig.

Anodd, ar y llaw arall, meddwl am rywun yn dweud Dim llawn metr na disgrifio dyn fel Rhywun sy'n rhy hoff o'i litr neu ddisgrifio cymwynaswr fel dyn sy'n barod i fynd y cilometr arall...

Y mae'n disgrifio ei gymeriad yn y geiriau hyn,

Maent yn disgrifio rhai o'r amgylchiadau yno'n well ac yn fwy treiddgar na'r hyn sydd yn ymddangos mewn papur newydd:

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio'r cyfarfod fu rhyngddynt a'r Ysgrifennydd Gwladol Alun Michael ddoe (Dydd Mercher Ionawr 6ed) fel un adeiladol.

Yma, mae CLEDWYN FYCHAN yn disgrifio dwy daith ddifyr y gallwch eu gwneud yn rhannol mewn car ac yn rhannol ar droed.

Ymladd ffyrnig rhwng carfanau o bobl ifanc a oedd yn eu disgrifio eu hunain fel 'mods' a 'rockers' ar draws Prydain.

Ar sail astudiaeth o'u llenyddiaeth, ceisir disgrifio'r gorffennol mewnol hwnnw y gellir ei enwi yn feddwl a dychymyg.

Mae'r system graddio yn ceisio crynhoi nodweddion hinsawdd, tirwedd a phriddoedd mewn un system sy'n disgrifio tir yn ôl ei ddefnyddioldeb amaethyddol.

Câi driniaeth mewn ysbyty ar ôl pob curfa, ond nid oedd dim tynerwch i'w gael yn y fan honno ychwaith--mae'n disgrifio fel y câi ef, a rhyw ugain o ddynion eraill oedd yn dioddef gan effeithiau fflangellu, eu gyrru fel anifeiliaid gwylltion i'r môr bob bore er mwyn i'r dwr hallt losgi'r briwiau.

Mae'n disgrifio Ceri Richards fel 'yr artist Cymreig', ond gan gyfaddef na all roi ei fys ar yr hyn sy'n Gymreig yn ei waith, fwy nag yn achos arwr arall, David Jones.

Ni allai ddioddef ei chlywed yn disgrifio sumptomau ei hafiechyd.

Fel yr wyf wedi disgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn oed pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr.

Yr ydym wedi gweld ei bod yn reit hawdd siarad am a disgrifio amrywiadau mewn ffordd o fyw o un ardal i'r llall.

Dyma fel y mae'r olaf yn disgrifio'r cyfarfyddiad.

Rhaid cofio, fodd bynnag, mai nod theori yw egluro yn hytrach ha disgrifio; ac, er mwyn egluro, y mae elfen o haniaethu (neu symleiddio) realiti yn hanfodol.

Roedd Ifan wedi disgrifio'r tywydd garw; Fe ddarluniai hi y dyddiau llonydd tawel.

Gall gwraig yr ydym yn ei disgrifio fel "gwyddonydd" fod yn fam, yn chwaer, yn ddiacon mewn eglwys, yn gwsmer mewn siop, yn gerddor, yn aelod o Ferched y Wawr.

Yma mae'n disgrifio'r her a'r problemau a wyneba wrth geisio hybu gweithgaredd amatur a phroffesiynol trwy gyfrwng yr þyl.

ù Sylweddolwn fod y gymdeithas yr wyf wedi'i disgrifio uchod yn uned ~iach' yn gymdeithasegol, ond er hynny yn dirywio o ran poblogaeth.

Llyfrau syml iawn, yn cyflwyno gwahanol deganau a thywydd sylfaenol gyda pwt o frawddeg yn disgrifio'r llun ar y top.

Ni dderbyniwn fod unrhyw broblem ynghylch cyfieithu dogfennau cyfreithiol yn disgrifio deddfwriaeth eilradd neu gynradd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Anodd yw disgrifio amgylchiadau blynyddoedd y rhyfel i'r aelodau presennol.

Cawsant eu disgrifio fel "morwyr di-ail cyn belled ag yr oedd elfennau morwrio a hwylio llongau bychain yn y cwestiwn".

Nid amcan y llith hon yw canu eu clodydd na disgrifio eu hamrywiol gyfraniadau i fywyd Cymru.

Aeth rhai mor bell â'i disgrifio fel Hitler ei chyfnod.

Un o'r cerddi enwocaf yw un Iolo Goch yn disgrifio llys Sycharth ym Mhowys.

Fel few bobbles yr oedd ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn disgrifio yr hyn oedd yn digwydd.

Ym marn Chomsky, nid disgrifio'r hyn sydd eisoes wedi ei lefaru yw unig swydd gramadeg ond hefyd roi cyfrif am yr hyn y gellir ei lefaru - ei genhedlu - yn y dyfodol.

A chofiais am Ramon, brawd Fidel, yn disgrifio sut y byddai'r awdurdodau'n dod o hyd i ddillad nofwyr tanddwr wedi eu claddu yn y tywod.

Gelwir y datblygiad yma yn algorithm genetig, a byddaf yn disgrifio'r syniadau sydd y tu cefn iddo ac yn rhoi enghraifft o'i ddefnydd mewn cyfrifiaduron.

Llinellau cyfeiriadol tew a haenau o baent o wahanol liw a thôn sy'n disgrifio'r rhan yma.

Mae'n disgrifio'r ymweliadau hyn yn ei atgofion mewn geiriau sy'n ei ddangoS 'ar ei elfedeiddiaf', a defnyddio ymadrodd Tegla: Ym mis Mawrth yr oedd cuwch ar Foel Famau heb nemor wen haul: ond gwen oedd ar y moelydd a dyffryn Alun fis Mai.

rhaid disgrifio a mesur yn fanwl-gywir y berthynas achosol fwyaf dibynadwy ('the best established causal relationship') rhwng rhannau'r llongddrylliad.

Ers diwedd Tachwedd bu Strasbourg yn disgrifio ei hun fel Dinas y 'Dolig ac yn darparu llu o gyngherddau clasurol a chrefyddol.

Mae yna dros gant o gyfeiriadau llyfryddol mewn erthygl o saith tudalen sy'n disgrifio'r ymchwil.

Y mae llawer o'r Disgifiad yn disgrifio swyddogaeth y Cyngor a'r modd y mae'r adran yn cyflawni'r gwaith.

Y mae tapiau sain yn ychwanegu dimensiwn pwysig arall trwy ein galluogi i glywed y bobl eu hunain yn disgrifio eu hamgylchedd a'u problemau.

Yn y gorffennol ni chofiaf inni erioed gael ein disgrifio ag ansoddair cryfach na direidus.

Gellir disgrifio allbwn egni yn syml.

Nodweddion y prif ffactorau Mae hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth Cymru wedi eu disgrifio'n fanwl mewn nifer o lyfrau ac erthyglau.

Nid yng Nghymru'n unig y cafwyd y math yma o amgylchiadau cymdeithasol a'u canlyniadau alaethus ar addysg - dyna oedd profiad cyffredin bron pob un o'r broydd ffatri%ol neu lofaol trwy Loegr benbaladr, a hynod o debyg oedd y geiriau a ddefnyddid yn adroddiadau'r arolygwyr ysgolion i'w disgrifio hwythau - broydd fel swydd Stafford a'r 'Black Country' drwyddynt draw, a rhannau o swydd Durham a siroedd gogledd Lloegr, ac wrth gwrs, trefi mawrion a dinasoedd Lloegr.

Hynny yw, disgrifio ac nid dehongli yw swyddogaeth y Gwyddonydd.

Buon nhw hefyd yn disgrifio sut y byddai'r Orange Bowl enwog yn cael ei defnyddio i gludo darllediadau lloeren byw o'r ynys rydd, a sut y byddai Miami gyfan yn un carnifal mawr am ddyddiau.

Mewn llythyr at ei dad, y Brenin Harri IV, disgrifia'r tywysog sut y teithiodd tuag at Sycharth a 'phan gyrhaeddon ni, nid oedd yr un enaid byw i'w weld, ac felly llosgon ni'r llys cyfan yn ulw.' Rydym ni'n ffodus heddiw fod Iolo Goch wedi disgrifio'r llys hwn o'r Oesoedd Canol mor fanwl cyn iddo ddiflannu am byth.

Gellir disgrifio hyn fel dau beirianwaith yn cyd-gloi:- Mae'r systemau hyn yn cyd-gloi yn:- Mae gweddill y ddogfen hon yn adlewyrchu'r systemau hyn.

Yn y wasg ac ar y cyfryngau maen cael ei disgrifio fel cyfres y tu hwnt o boblogaidd.

Druan bach, nid yw ei adenydd ffansi ond megis rhai gwybed bach wrth ymyl rhai eryr dau-ddwbl yr estate agent pan fo'n disgrifio fferm sydd ganddo i'w gwerthu.

Heibio cae pella a'r gors bach, yna i ben draw gors fawr,' a disgrifio'r daith yn ôl wedyn.

'Roedd yn disgrifio hanes adeiladau yng nghefn gwlad Cymru tros y canrifoedd yn weddol fanwl ynghyd â'r ymgyrch i geisio rheolau dylunio wrth ei astudio.

Yn y bennod olaf, Fframwaith ar Gyfer Disgrifio'r Iaith Gymraeg'.

Unwaith eto byddwch yn rhoi marc i ardal yn ôl y geiriau sydd yn disgrifio'r ardal orau.

Mae sôn iddo ysgrifennu penillion a'u hanfon i'r Clorianydd, yn disgrifio un teulu mwy crintachlyd na'i gilydd.

Wel, rhwng hynny i gyd a'r ffaith fy mod i wedi gweld y golau nos Sadwrn, roedden ni'n meddwl yn siwr fod rhywun yn cuddio ar Graig Ocheneidiau yn rhywle." Gwrandawodd yr arolygydd ar Owain yn disgrifio'r fflachiadau o'r ynys.

Mae'n amlwg nad oedd angen ond i Youenn Drezen dynnu ar ei atgofion personol er mwyn disgrifio datblygiad seicolegol y cyw offeiriad pan orfodir ef yn sydyn i wynebu byd yr ymdrechwyd hyd hynny i'w guddio rhagddo.