Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgrifir

disgrifir

Yn y rhybudd enwir Iolo Morganwg, ac fe'i disgrifir fel yr unig un a oedd eisoes yn 'Fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain', sef, fel yr eglurodd yn ddiweddarach, un a wyddai 'Gyfrinach a Breiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydain'.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

Daw'r ail gyfeiriad o gerdd y credir ei chyfansoddi yn y seithfed ganrif, Marwnad Cynddylan, lle y disgrifir Cynddylan ap Cyndrwyn a'i feibion o bowys fel canawon Arthur fras, sef 'epil ieuainc Arthur Fawr'.

Nid yw hyn, fodd bynnag, yn eu gosod yn yr un categori â phobl Dduw fel y disgrifir hwy yn yr Hen Destament.

Disgrifir hefyd drefniadaeth y Cyngor Llyfrau o safbwynt system ddosbarthu a grantiau cyhoeddi a chynigir rhai egwyddorion fel sail i weithredu yn y dyfodol a model o system i wireddu'r egwyddorion.

Disgrifir yr helynt ar fuarth Pen y Bryn gyda chryn afiaith, yn enwedig y modd y caiff yr arwerthwr a'r Saeson eu hannos gan y dorf.

Disgrifir ef gan Richard Prise fel 'y daearyddwr nodedig Humphrey Llwyd, sydd bellach wedi marw, ond a haeddai gael byw'n hwy ar gyfrif ei eiddgarwch diflino yn nisgyblaethau hanes a mathemateg'.

Disgrifir yn fyw iawn gyfnodau maith o anhrefn ac anweddustra yng nghorff History Syr John Wynn.

Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.

Sut bynnag y disgrifir ffrwythau'r iawn, boed fel iachawdwriaeth, gwaredigaeth, prynedigaeth, cyfiawnhad neu gymod, fe'i seilir ar aberth Crist, Mab Duw, dros bechod dyn.

Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio.

A chaniata/ u na wyddom nemor ddim am y cymorth a roes dylem gofio y disgrifir ef fel un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Disgrifir ei brofiadau yn y carchar yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf fel gwrthwynebydd sosialaidd i'r rhyfel.