Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgwylid

disgwylid

Disgwylid i'r pen-cantor breswylio'n barhaus yn y clas-eglwys.

Disgwylid ni i fod yn bresennol mewn oedfa hefyd.

Disgwylid i'r cwrs addysg gynhyrchu to o fonedd a symbylid gan safonau moesol uchel.

Yn gyntaf oll, disgwylid iddo reoli'n dda ac, yn ail, edrychid arno fel un a roddai esiampl i eraill o'i 'berffeithrwydd' (neu o leiaf ei ddehongliad ef ohono) er mwyn gwneud dynion eraill yn dda.

Magwyd ef yn y cyfnod braf gynt, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan feddylid fod popeth yn gwella wrth ei bwysau, a'r unig beth y disgwylid i bawb o'i gyfnod ei wneuthur oedd cadw'u dwylo ar yr olwyn.

hynny yw, pe codai anghydfod rhwng gwlad a gwlad yna disgwylid i'r ddwy ohonynt ofyn i rhyw wlad a oedd yn gyfeillgar â'r ddwy ohonynt i'w cymodi a'u hatal rhag mynd i ryfel.

Mis pwysig i ieuenctid oedd Chwefror oherwydd tua'i ganol disgwylid ffolant; os na ddigwyddai hynny, diflas fyddai ar y person hwnnw o safbwynt carwriaeth tan Galangaeaf.

Fel y disgwylid, Martin Johnson o Loegr fydd y capten. Ef, hefyd, oedd capten Y Llewod ar y daith i Dde Affrica ddwy flynedd yn ôl.

Fel myfyrwyr eraill am y weinidogaeth, disgwylid iddo helpu capeli o gwmpas Aberystwyth ar y Sul, ac yn wir fe ddibynnai am ei gadw ar yr hyn a delid iddo.

Yn gyntaf disgwylid iddo sicrhau bod holl weithgareddau drama yr Eisteddfod yn cael eu cynllunio a'u trefnu'n effeithlon ynghyd â gofalu am yr elfen Gymraeg o 'dramaffest', gþyl flynyddol Cymdeithas Ddrama Cymru.

Yr oedd gwneud y fath hawl, wrth gwrs, yn mynd at wreiddyn a sylfaen y berthynas rhwng Cymru a Lloegr, yn tanseilio'r berthynas honno, ac yn gosod i fyny deyrngarwch newydd yn lle'r teyrngarwch i'r wladwriaeth Brydeinig y disgwylid i bob Cymro, fel pob Sais, ei roddi a'i arddel yn rhinwedd ei ddinasyddiaeth.

Prin y disgwylid i grwtyn chwilfrydig gydymffurfio a'r gwarharddiad.Fe wn i un peth i sicrwydd, i mi, wrth glustfeinio yno, ddod i wybod aml gyfrinach.Ehangwyd fy ngeirfa aflednais a ddeuthum i ddyfnach adnabyddiaeth o gymdeithas ddauwynebog y Cei.

(ii) Datgan y disgwylid i'r person a benodid i'r swydd fod yn medru siarad Cymraeg.

Pe digwyddai iddo ddigio carfan o'i braidd yna disgwylid iddo ymadael â'i eglwys a chwilio am fugeiliaeth arall.

Fel y disgwylid, y mae ei gyfieithu yn dilyn dulliau Calfin yn fwy nag eiddo Luther.

Edrychid ar ddiwylliant clasurol yn gyfrwng gwasanaeth ac yn sail y bywyd gweithredol y disgwylid i'r bonedd ei fabwysiadu.

Disgwylid i'r bonheddwr fod yn ŵr ymarferol.