Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgynyddion

disgynyddion

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

Ond ychydig olion arwynebol sydd ar ôl o bobl Oes yr Haearn, a nemor un traddodiad o'u gweithgareddau heblaw eu bod hwythau fel eu disgynyddion yn gorfod byw ar gynnyrch gwlad.

Disgynyddion adar a fagwyd mewn parciau yw'r Gwyddau Canada estronol hefyd, ond credaf fod y ddwy rywogaeth yn ychwanegiadau difyr i adar ein gwlad.

Fodd bynnag nodaf yma ychydig o ffeithiau am Watkin, Richard a William Williams yn ogystal â rhai o'u disgynyddion.

Un canlyniad yw fod disgynyddion y goresgynwyr cyntaf yn rhyfeddu at anniolchgarwch y brodorion pan ddechreuant ymgyrchu o blaid eu hiaith a'u diwylliant eu hunain.

Doedd disgynyddion y bobl oedd wedi helpu'r Romans erstalwm i godi caerau, ac oedd yn gweithio'n galed yn codi glo ac ati, ddim yn lecio'r sect newydd yma ryw lawer iawn ond does yna ddim pylla glo ar ol rwan felly mae'r hogia hynny wrthi'n troi at y sect newydd o'r diwedd.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Er bod y math o wybodaeth yr oedd Gradgrind yn ei geisio wedi troi'n ddihareb am ddiffyg dychymyg, ni ddylem anghofio'r rhesymau pam yr oedd y Fictoriaid yn mynd ar ôl ffeithiau, nac am y tro da a wnaed â'u disgynyddion trwy eu casglu.

Ar ben hynny, rhoesant y gorau i ddefnyddio'r Gymraeg gan amddifadu eu disgynyddion o'r cyfle i'w defnyddio.