Erbyn hyn credir y bydd laserau o'r deunyddiau hyn yn disodli peth o waith y laser Nd:YAG, yn enwedig gwaith pwê er isel.
Wedi'r cwbl, roedd y deugeinfed arlywydd yn feistr ar ddarllen yr `autocue' - y peiriant hwnnw sydd wedi disodli'r cof ym myd y teledu.
Defnyddio camerâu electronig Yn y degawd diwethaf mae camerâu electronig wedi disodli platiau ffotograffig fel y ffordd mae seryddion yn cofnodi'u delweddau.
Ond mae Gwilym R. Tilsley hefyd yn gweld y gymdeithas yn newid, y patrwm gwaith yn mynd â phobl i weithio mewn swyddfeydd, a diwylliant roc a rol yr arddegau yn disodli cymdeithas y festri.
Nid oes neb yn hoffi mynd i mewn i r cylch gyntaf felly bydd y sawl sy'n ceisio disodli'r pencampwr yn gorfod plygu o dan y rhaffau gyntaf a chamu i'r cylch.
Gyda chasetiau a CDs yn disodli'r feinyl du, lansiwyd y record honno - gan Datblygu, Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog - fel y sengl Gymraeg olaf, gan ddefnyddio logo cyntaf cwmni Sain arni.
Trwy wneud delfryd ohono, fe gafodd yn y diwedd ei droi'n gymeriad 'pathetig' ac fe fethodd y Cymry Cymraeg â sylweddoli beth oedd ar droed pan gafodd yr hen undebaeth ryddfrydol ei disodli gan undebaeth ffyrnig newydd.
Disodli Cytundeb Blaenorol
Erbyn chwater olaf yr ugeinfed ganrif 'roedd y cyfrifiadur wedi dechrau disodli'r teipiadur, ac 'roedd chwyldro mawr technolegol arall y ffordd.
Wedi hynny y cawn y dystiolaeth gyntaf fod haearn yn disodli pres, a bod y cyfnod a elwir Oes yr Haearn wedi dechrau.
Yng Nghymru ymwrthodwyd yn llwyr â rheolaeth drwy'r Quangos o'r dechrau ac ni fyddwn yn barod i weld disodli y Cyngor Cyllido Addysg Bellach gan gwango arall.
Rhaid disodli'r hen ddeddf sy'n perthyn i oes y Torïaid, a rhoi deddf newydd yn ei lle sydd yn fwy addas i ddemocratiaeth Cymru newydd.
Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.
Mae peiriannau yn disodli pobl mewn llawer maes, ac o'r herwydd mae diweithdra ar gynnydd.
Y tu ôl i lenni ei gartref o y cyfarfu'r 'cynllwynwyr', ac wedi hynny chwaraeodd ran ganolog yn yr ymgyrch i'w disodli hi.
Tilsley hefyd yn gweld y gymdeithas yn newid, y patrwm gwaith yn mynd â phobl i weithio mewn swyddfeydd, a diwylliant roc a rol yr arddegau yn disodli cymdeithas y festri.
Y mae enghreifftiau o fewn rhai systemau bywyd lle mae cyfansoddion neilltuol wedi eu disodli gan rai eraill nad ydynt yn rhai naturiol, heb amharu ar weithgarwch yr organebau.
Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd yr hen glasau Cymreig - mam-eglwysi'n gweinidogaethu i ardaloedd eang ond amhenodol - wedi eu disodli gan yr esgobaethau tiriogaethol a'u ffiniau wedi eu pennu.
Megis Perseffone'n cael ei galw'n ferch i Demeter, er mai dwy agwedd ar y Fam Fawr oeddynt, mae'r Widdon Wen yn dilyn, neu'n disodli'r, Widdon Ddu.