Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diweithdra

diweithdra

Pwrpasol am ei bod yn delio a phroblem holl-bresennol diweithdra mewn cyd-destun cwbl Gymreig.

Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn.

Diffeithdra a diweithdra a nodweddai rannau helaeth o Gymru bellach.

Diweithdra yn codi'n uwch na 2 filiwn.

Mae awduron yn y ddwy iaith yn poeni am yr un gofalon, boed y rheini'n gymdeithasol (fel diweithdra), yn fyd-eang (fel pryder niwclear), neu'n bersonol (fel plant yn tyfu i oed).

Wrth gwrs bu'r ardal hon yn dioddef yn enbyd yn economaidd ac y mae cyfraddau diweithdra ymysg y gwaethaf yng Nghymru.

Rhieni yn eu tro yn darfod ac yn achosi diweithdra uchel iawn ei gyfartaledd.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Nododd fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bygwth gan y dirwasgiad a diweithdra, a bod gwasanaethau iechyd a llyfrgelloedd yn cael eu cwtogi.

Cyhoeddwyd hefyd fod diweithdra ar drai.

Cychwyn S4C. Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr. Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn. Roy Jenkins yn ennill is-etholiad Hillhead, llwyddiant seneddol cyntaf yr SDP.

Diweithdra yn codi'n uwch na miliwn Y Llywodraeth yn troi'r wythnos waith yn dri diwrnod oherwydd streic y glowyr.

Tir, dwr, consgripsiwn, radio, teledu, symud poblogaeth, mewnfudo, diweithdra, iaith ac addysg - prin bod agwedd ar fywyd y genedl na bu'n faes brwydro rywbryd neu'i gilydd yn ystod yr hanner canrif diwethaf.

Dengys yr ystadegau isod sefyllfa diweithdra gwrywod a benywod mewn ardaloedd teithio i waith o fewn y pedair ardal weithredu.

Gan nad oes modd ymddiried yn llwyr mewn rhagolygiaeth economaidd, y mae temtasiwn naturiol i unrhyw lywodraeth ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, fel cynnydd yn y gyfradd diweithdra.

Protestiadau yn erbyn y profion meddiant a deddf diweithdra: 250,000 yn mynychu ralïau ar draws De Cymru ac yn Blaina, Gwent, 18 yn cael eu carcharu am greu cyffro.

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.

Mae peiriannau yn disodli pobl mewn llawer maes, ac o'r herwydd mae diweithdra ar gynnydd.

Hon oedd gwlad Evita Pero/ n, creulondeb y juntas milwrol, Rhyfel y Malvinas, chwyddiant blynyddol o filoedd y cant, tlodi a diweithdra.

Canlyniadau'r datblygiadau mewn dulliau ffermio a pholisiau cynllunio cibddall Llywodraeth Lloegr oedd y ddau amlycaf o nifer o resymau dros y diweithdra a'r diboblogi.