Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diwreiddio

diwreiddio

Yr oedd y radicaliaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Eglwys Lloegr, meddai, "ac wedi cyduno gydag O'Connell, a'r Pabyddion eraill ag sydd yn awr yn y Senedd, i'w diwreiddio a'i thynnu i lawr.

Eu hiaith a'u diwylliant oedd prif amddiffyniad urddas a dynoliaeth y Cymry yn wyneb goresgyniad diwydiannaeth a chyfalafiaeth ysgeler y ganrif ddiwethaf, ond polisi anwar y Llywodraeth oedd eu diddyfnu oddi wrth eu diwylliant a'u diwreiddio o'u hanes fel y chwelid y gymdeithas genedlaethol.