Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diwygio

diwygio

Mae moesau a chwrteisi Edward Vaughan a Harri yn curo rhai'r dosbarth is - Wil James, Terence a bechgyn y ffordd sydd angen arweiniad un o'r Vaughaniaid cyn diwygio'u ffyrdd.

Perthyn Deddf Iaith '93 i'r ganrif ddiwethaf a'i gwerthoedd ac mae'n hen bryd ei diwygio'n drwyadl.

Pwy a fu'n gyfrifol am y diwygio tybed?

Yn y rhaglen hon byddwn yn trafod os oes angen diwygio'r Orsedd.

Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.

Y mae'n ddi-os i'r fersiwn Saesneg ennill mewn urddas trwy'r diwygio hwn, ond colled fu dileu bywiogrwydd a naturioldeb Saesneg Tyndale.

Ym mis Rhagfyr fe gododd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad gwestiwn diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Gallaf gydymdeimlo â chyfieithwyr yn yr Alban a fu mewn dyfroedd dyfnion yn ystod trafodaethau'r senedd yn diwygio Cymal 28 yno.

Yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos ddiwethaf bu i Dafydd Wigley ofyn cwestiwn ynglŷn a diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Ac ar y llaw arall, yr oedd ar y mwyaf o Biwritaniaid selog nid yn unig ymhlith y clerigwyr ond ymhlith yr uchelwyr hefyd nad oeddent yn colli'r un cyfle i greu pryder trwy geisio diwygio'r Eglwys.

Cydnabyddir y Dr John Davies yn ysgolhaig Cymraeg mwyaf ei oes ac ar wahân i'w waith yn diwygio Beibl William Morgan ysgrifennodd lyfrau dysgedig a chyfieithiadau, a chasglodd lawer o lawysgrifau pwysig.

Yn ddiweddar bu llawer o ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach yn diwygio'u cwricwlwm.

Rees, Casgob, Thomas Richards, Darowen, a Charnhuanawc, i drafod nid yn unig gyflwr yr Eglwys a chynlluniau Burgess i'w diwygio, ond hefyd hanes a hynafiaethau Cymru, ei llên a'i halawon.

Byd dyfodol ariannu o'r fath yn dibynnu ar lwyddiant cyflawni'r cytundebau hyn, neu ar eu diwygio trwy negodi yn wyneb profiad.

Cred y cyhoedd mai dim ond un pwrpas sydd mewn carcharu, sef diwygio'r troseddwr.

Disgwyliwn i'r Cynulliad annog a diwygio Awdurdodau Lleol yng Nghymru hefyd i weithredu yn unol â'r egwyddorion uchod.

Un o dasgau cyntaf y Pwyllgor ddylai fod i ail-edrych ar Ddeddf yr laith Gymraeg 1993 gyda'r bwriad o'i diwygio a'i chryfhau.

Yn ail, er bod Coleg Ieuan Sant yn ystod y cyfnod hwn yn nythle i'r Piwritaniaid, a gredai fod angen diwygio Eglwys Loegr ymhellach fyth yn ôl patrwm Eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, ac er bod tiwtoriaid i Forgan a Phrys ymhlith arweinwyr y blaid Biwritanaidd, y mae'n ymddangos i Forgan, a Phrys hefyd yn y diwedd, lynu'n ddiysgog wrth y blaid Anglicanaidd swyddogol, a arweinid yng Nghaergrawnt ar y pryd gan un o'r Athrawon Diwinyddiaeth, y Dr John Whitgift.

Yn sgîl y Ddeddf Diwygio Addysg, arfaethir cynnig i ddisgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf brofiadau cyfrwng Cymraeg, fel y bo modd iddynt ennill hyfedredd lawnach nag erioed.

Y ffaith yw iddi gael ei diwygio gryn dipyn, a hynny er gwell.

Nid fod ein dyled ronyn yn llai iddo ar ôl inni wybod hynny, oblegid cryn dipyn o orchwyl oedd llywio cwrs argraffiad diwygiedig hyd yn oed pan oedd rhywun arall yn gyfrifol am y diwygio.

Daeth yn hen bryd diwygio Deddf Iaith '93 a chydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru.

Heblaw Catrin, fe etifeddodd Morgan gan ei ragflaenydd gurad o'r enw Lewis Hughes yr oedd iddo gryn enw fel englynwr a gŵr llawen, er bod Morgan yn honni ei fod wedi diwygio ei ffyrdd er pan ddaeth ef yn feistr arno.

Yn y Traethodau i'r Amseroedd dangosodd Newman nad oedd yn hoffi'r gair 'Protestant' ac ymddangosai fel pe bai eisiau diwygio'r Diwygiad.

Am nifer o resymau, felly, y mae angen ystyried y canolfannau yn asiantau cenedlaethol annibynnol ac mae angen diwygio'r drefn o'u hariannu i adlewyrchu'r newid hwn.