Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diwylliannau

diwylliannau

Cwmpasai chwilfrydedd hynod yr Oleuedigaeth y diwylliannau gwerinol hefyd, ac nid oedd gwladweinwyr yn ddall i anghenion ymarferol addysg dorfol.

Mae ein byd - hyd yma - mor llawn o draddodiadau a diwylliannau gwahanol.

Oherwydd natur y gwledydd neu'r diwylliannau y rhoeson ni lawer o sylw i Israel neu'r Mohawks yng Nghanada ac mae'n wir fod llawer o'r pynciau wedi bod yn uniongyrchol berthnasol i Gymru - ond roedd llawer nad oedden nhw felly.

Yma y peth a ddaw i'r golwg yw difri%o'r diwylliannau lleiafrif trwy eu hanwybyddu.

Mae aelodau rhai diwylliannau lleiafrifol yn genfigennus ohonom ni yma yng Nghymru.

Ac felly hawdd oedd iddo gredu mai gwaith da oedd distrywio'r diwylliannau bach - fel y gwnaeth Sbaen yn Ne America ac fel y gwnaeth yr ymfudwyr i ogledd America â diwylliannau'r Indiaid brodorol.

'Roedd Prosser Rhys yn adlewyrchu'r chwalu ar yr hen safonau a oedd yn digwydd mewn diwylliannau eraill ar ôl y Rhyfel Mawr, megis yng ngweithiau James Joyce.

rheswm dros hyn yw mai cymdeithas gymharol ifanc yw cymdeithas America y dyn gwyn, heb hanes a diwylliant hynafol y bobl frodorol yno, ac wedi colli cysylltiad â diwylliannau'r ymsefydlwyr cyntaf o Ewrop.

Tra gallai ysfa ddiwygiadol yr unbeniaid goleuedig helpu diwylliannau cysglyd, nid oedd Herderiaeth o reidrwydd yn ffafriol iddynt.

Mewn diwylliannau crwydrol, mae'r llwythau yn marcio coed a cherrig i ddangos eu ffiniau hyd heddiw.

Mewn rhai diwylliannau roedd neidio dros ysgub yn gallu bod yn beryglus.

Cychwyn gyda gwrtheb a wnaeth yr awdur - ar Genedlaetholdeb yr oedd y bai am bicil Cymru gyfoes, cenedlaetholdeb gwladwriaethau Ewrop, gyda'u pwyslais ar undod a chryfder ar draul diwylliannau lleiafrifol.

Hyd lannau rhynllyd Afon Daugava, roedd olion hen fawredd a dylanwad diwylliannau eraill ond, ym mlwyddyn gynta' rhyddid, roedd hi'n wlad dan warchae o'r tu mewn.