Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diwylliedig

diwylliedig

Creodd y capeli hyn gymdeithas a oedd, er ei mynych wendidau amlwg, yn urddasol a diwylliedig.

Ac mae'r un peth yn wir hyd yn oed am rai o'r Rwsiaid mwyaf diwylliedig.

Nid oes dim mursendod hynafiaeth yn ei iaith na'i arddull, ond mynegiant syml-goeth gŵr diwylliedig.

Edwards, mae'n siŵr y byddech, a chwithau'n un o ddarllenwyr diwylliedig Barn, wedi gallu rhoi rhyw lun ar ateb wrth ei gilydd - ond Carnhuanawc!

Yr oedd yn ŵr diwylliedig, craff, ac yr oedd yn athronydd wrth natur.

Yr oeddent wrthi'n gweithio i weddnewid gwerin mewn ffyrdd a fyddai'n ei gwneud yn ddigon hyderus a diwylliedig erbyn canol y ganrif i fynnu ei hawliau ac i gymryd at awenau arweiniad cymdeithasol a gwleidyddol.

Yr oedd gennyf gymaint o feddwl o Ioan Brothen fel gūr diwylliedig nes imi ddweud ar ddarlith i fyfyrwyr Bangor un tro : "O ran ei ddiwylliant mi dynnwn fy het i Ioan Brothen na chafodd ond chwech wythnos o ysgol o flaen eich hanner chi% Ym myd hynafiaethau bu Ioan Brothen yn fwy o help imi na neb.

Methodd gan y Cymmrodorion fagu dosbarth canol diwylliedig Cymraeg.

Wrth gwrs, y mae yn y llywodraeth wyr diwylliedig sy'n eiddigeddus tros urddas eu traddodiad.

Yr oedd yn ddyn diwylliedig ac yn ddarllenwr mawr.

Ceir pobl eithaf amlwg ac eithaf diwylliedig yn barnu nad oes dim mewn llenyddiaeth Gymraeg sy'n werth ei ddysgu na'i ddiogelu.

Fel ei dad, roedd Arthur yntau yn ymddiddori mewn barddoni, yn canu'r ffidil, ac yn llanc diwylliedig iawn.

Felly,' meddai'r llais coeglyd, mae rheolwr-gyfarwyddwr Esgidiau Richards yn ddigon diwylliedig i ddarllen.

Nid 'i fod o'n hyn nac yn ddoethach nac yn fwy diwylliedig na'i frodyr.

Roland Williams, gwr tra diwylliedig a oedd yr ddylanwadol yng Nghlunderwen ac yn wir yn y Sir i gyd.