Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dlws

dlws

'Tro dwetha i unrhyw fath o dlws ddod i Gasnewydd oedd yn 1978 felly mae'n bryd i ni ennill rhywbeth.

Mae'r geiriau'n dlws iawn os oes amser gyda chi i aros a gwrando.

Cadwai yr ardd yn hynod o dlws, blodau o bob lliw ymhobman, y rhosys yn gorchuddio'r wal oedd yn dal y tir yn ei le, a choed acacia a blodau gwyn a phinc.

Mewn dathliad yn Theatr Felin-fach, ger Aberaeron, dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones.

Rwyt mor dlws ag erioed.

Yr oedd ein ffordd trwy ganol gwlad neilltuol o dlws - yn fryniog, yn neilltuol y rhan gyntaf o'n taith - goediog; nid fforestydd ychwaith, ond llwyni mawrion yma a thraw fel a welir ar barciau boneddigion Prydain.

Fel ei mam, Huana, yr oedd Gwenhwyfar yn dlws a llywethau'i gwallt du yn disgyn yn drwm dros ei hysgwyddau a'r ddau lygad fel dwy eirinen yn las tywyll uwch dwy foch goch.

Mae eu blodau yn dlws iawn, ond y pigau yn gas.

A'r tro hwn mae hi'n gweld y llecyn trwy lygaid artist ac yn rhyfeddu mor dlws ydi o." Dal i syllu'n hurt ar y ddau yr oedd Sam druan.