Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dm

dm

Rowland Hughes, y ddau fel ei gilydd, am DM Jones: ei fod yn hanfod o Landeilo, fod ei fam yn Saesnes, ei fod wedi ei addysgu yng Ngholeg Llanymddyfri ac wedi caei addysg glasurol dda yno ond heb ddim hyfforddiant yn y Gymraeg, ac mai yn Rhydychen wrth ddarllen yn ei oriau hamdden yr oedd wedi dod i werthfawrogi cyfoeth iaith a llenyddiaeth Cymru ac i ymserchu cymaint yn nhelynegion Ceiriog fel yr aeth ati i'w cyfieithu i'r Saesneg' Mae adroddiad OM Edwards o hanes dechrau'r Gymdeithas ychydig yn wahanol.

Boed a fo am hynny, yr oedd DM Jones bron ar derfyn ei gwrs yng Ngholeg Worcester pan sefydlwyd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a pha ran bynnag a fu iddo yn ei sefydlu, ni bu iddo ond y nesaf peth i ddim dylanwad ar ei datblygiad; yn wir, hyd y sylwais, nid yw ei enw yn ymddangos fwy na rhyw ddwy waith yn y cofnodion ar ôl cofnodion y cyfarfod sefydlu.

Yn ôl OM Edwards, felly, efe ei hun a gafodd gyntaf y syniad am ffurfio Cymdeithas y Dafydd, ac nid DM Jones.

Dyma a ddywed ef: Wrth ddarllen hen ddyddiadur ddoe, gwelais nodyn fel hyn, A fedrir cychwyn cymdeithas Gymreig yn Rhydychen; gofyn i DM Jones.

Deheuwr bywiog, o athrylith wasgarog, Eglwyswr, ac aelod o Goleg Worcester oedd DM Jones; Gogleddwr araf, diwreichion, Ymneilltuwr, ac aelod o Goleg Balliol oeddwn innau.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).