Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

doedd

doedd

Doedd - - ddim yn anghytuno â hyn.

Bu Robert Jones yn fewnwr i Gaerdydd a 'doedd e ddim yn meddwl bod hyn yn sioc fawr.

"Doedd gen i ddim rhyw lawer o feddwl ohoni hi, wir.' 'A chwithau'n mynd i bregethu,' meddai.

Cyn hynny roeddwn i yn ei barchu o, ond doedd o ddim yn fy mharchu i.

Eto, doedd yna liw o ddim.

Doedd y du a'r gwyn byth yn cymysgu, a rhwng y ddau eithaf roedd bywyd yn syml ac yn lliwgar.

Doedd yna ddim goliau yn y gêm rhwng Cymru a Gwlad Pwyl yn Warsaw, neithiwr.

Doedd o ddim wedi mynd i'r gwasanaeth: trefnodd ei fod yn recordio rhaglen, ac er bod Elsbeth wedi bwriadu mynd galwodd rhywun i'w gweld y funud olaf.

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

Gydag amseru mor berffaith, 'doedd dim perygl iddi fethu â chael y maen i'r wal.

Doedd yna ddim cymaint yn y Cyfarfod Cyffredinol eleni, yn wir mae'r tyrfaoedd mawr wedi diflannu ers canol y saithdegau.

Ac yn nyddiau cymwynasgarwch ac ewyllys da, 'doedd dim eisiau iddi fod.

Aberystwyth a ddewiswyd fel man cyfarfod, ond doedd dim adeilad addas ar gael, felly dewiswyd Machynlleth yn ei lle, oherwydd ei bod yn ganolog, ac oherwydd y cysylltiadau ag Owain Glyndwr.

Dipyn o ddireidi hwyrach, ond dim byd tebyg i blant heddiw.' Wel, rhaid i mi fod yn onest, 'doedd na ddim rhyw lawer o wahaniaeth!

Doedd dim rhyfedd i Ifan Jones wneud cymaint o stŵr yn ei chylch.

Doedd Mam ddim wedi dweud peth clên o gwbl amdanon ni, Doedd dim ots gan Robat John ond roedd ots gen i.

"Chaw chiw chol chim?" sef o'i gyfieithu "Be di enw o?" Na sori, doedd o ddim yn adnabod yr un Patrick!

Doedd yna fawr o alw am ei wasanaeth ac roedd hynny o gyflog a gâi yn fychan iawn.

Doedd llawer ohonyn nhw ddim hyd yn oed yn Gristnogion a doedden nhw byth yn tywyllu drws yr eglwys, ond roedd pawb yn benderfynol y buasen nhw'n adeiladu'r eglwys orau y medren nhw.

Doedd gen i ddim iot o ddiddordeb ynddi hi na'i chydnabod - ar wahân i'w mam-gu.

A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto.

'Doedd dim llawer o arwydd fod y Rhyfel Mawr wedi digwydd yn nwy brif gystadleuaeth lenyddol y 'Steddfod hon.

Doedd neb yn mynd i ymweld ag ef.

'Doedd Mam ddim am iddi newid ei fest yn rhy amal.

Doedd hi ddim eisiau rhannu.

A bod yn onest, doedd yr un ferch wedi mennu rhyw lawer arno.

Doedd hi ddim yn coelio mewn banciau felly doedd hi ddim yn bosib iddi newid sieciau, ond byddai'n rhoi benthyg yr arian heb feddwl ddwywaith am y peth.

Doedd Nathan Blake ddim yn ymarfer gyda gweddill y chwaraewyr yn Stadiwm Daewoo Legia, Warsaw, neithiwr, ond does dim lle i boeni.

Doedd dim clem gan Gaerdydd yn ystod y gêm, gydag 11 o newidiadau i'r tîm ers gêm dydd Sadwrn.

Doedd y Cymry yn yr ardal lle y cafodd hi ei magu ddim yn gwrthwynebu tai haf, ac roedd nifer go lew ohonyn nhw o gwmpas: rhai'n perthyn i enwau cyfarwydd megis Mackintosh, Dunlop, a Rowntree, teuluoedd a oedd yn berchenogion ar geir crand a chychod hwylio.

Doedd e ddim yn sylw doeth, mae'n wir, ond byddai ei ynganu wedi rhoi pleser ofnadwy iddo = dros dro.

Crwban y môr oedd yno, ond doedd y morwr erioed wedi gweld un mor fawr yn ei fywyd.

Doedd dim ond deuddydd er yr olygfa honno yn y clwb Ffermwyr leuanc.

Doedd gen i ddim byd i'w wneud ond dal i fyfyrio ar stori Owen Owens.

Doedd e erioed wedi mynd i ffwrdd a gadael y cŵn ar eu pennau eu hunain yn y tŷ?

Doedd y stori yna am y siop yn Wrecsam ddim yn wir?

Ac ar ôl ei brofiadau yn yr ogof, doedd Geraint ddim am fod mewn unlle caeedig am hir iawn.

"Doedd dim amdani%, meddai ar ddiwedd un ohonyn nhw "ond cychwyn tuag adref".

Doedd dim bariau ar y ffenest ac roedd y drws ar agor.

Doedd hi'n nabod neb yno ond Tom, ac roedd o wedi addo peidio'i gadael.

'Doedd ganddi hi ddim lle i gadw ci.

Arwydd arall oedd 'Clwbyn y Glaw'; doedd hwn ddim i weld bob amser oherwydd pellter ffordd.

Doedd dim asiantau gwerthu tai yn yr Oesoedd Canol ond mae gennym ni ddisgrifiadau gwych o ambell dy pwysig o'r cyfnod.

'Doedd o ddim rhyfedd efallai fod yna ffin go bendant ar bwysau'r llwyth a ganiateid yn y ferfa honno.

Doedd hi erioed wedi codi fawr o chwant arno.

Bu'n ystyried rhoi tipyn o bella donna i Arabrab yn ei phicl-wynwyn, a chynyddu'r dos yn araf, ond doedd o ddim yn siŵr a oedd hi wedi gwneud ei hewyllys.

Doedd yr un ohonyn nhw yn sylwi ar ei gilydd.

Doedd tad Carol ddim yn hapus gyda'r berthynas o gwbl felly symudodd Carol i fyw at Dic a dyweddïodd y ddau.

Doedd ef ddim yn ddigon tal i'w dilyn, fodd bynnag, ond wedi clywed am heddlu'r carchar "teimlwn fod yma ryw fath o her, rhywbeth gwahanol" ar ei gyfer.

Cyn bo hir roedd y rhan fwyaf o'r ddiadell yn ddiogel rhag yr eira a sgubai dros y wlad, ond doedd Ivan ddim yn fodlon.

Doedd dim angen i neb ddweud gair, dim ond pwyso un o'r ddau fotwm ar y ddesg o'u blaenau.

Doedd cyn-reolwr y Llewod, Clive Rowlands, ddim mor hapus ynglyn âr penodiad.

Doedd - - ddim yn mesur tendr ar sail arian yn unig oni bai fod y pris yn ofnadwy o isel.

Doedd anrhydedd ac urddas yn cyfrif dim a diflannodd pob llawenydd o'u bywydau.

Doedd yna ddim ysbrydion ym Mlaenau Ffestiniog pan oeddwn i yn hogyn yn y tridegau - dim bwganod go iawn.

Doedd dim dewis arall ar gael.

Doedd Darren ddim yn hapus o gwbl pan ddaeth ar draws Meic Pierce, ond mae gan Meic gyfrinach - ef yw tad Darren.

Doedd gen i ddim amheuaeth o'r funud honno nad oedd bod yn Somalia i baratoi yr adroddiadau cynta' yn Gymraeg yn ddigon ynddo'i hun.

Doedd ei unigrwydd artistig chwaith ddim yn unigryw.

Doedd dim disgwyl i mi ffeilio deunydd yn ddyddiol.

'Doedd yna ddim problem ffitrwydd.

Doedd dim i dynnu hiraeth arni yma - doedd dim yma i godi atgofion a fyddai'n rhwygo'i chalon.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Doedd o ddim yn ffyddiog iawn i gwelen nhw eu car byth eto gan fod cynifer o geir yn cael eu dwyn yn y ddinas.

'Doedd hynny ddim yn rhyfedd gan 'i fod o wedi eistedd ar fy het i nes 'roedd hi'n fflat fel crempog.

'Doedd gen' i mo'r iau i wrthod ac mi es.

Eto i gyd, doedd cael ei wrthod ddim yn beth neis, yn enwedig heb wybod pam.

Doedd Ysgrifennydd Cefn ddim yn gwybod chwaith.

Doedd hi ddim yn beth anghyffredin darganfod cyrff pedwar neu bump o ddynion y pentre' ar ei rhiniog y bore wedyn.

Doedd ei wyneb ddim fel hen esgid, chwaith.

Fe ddaeth rhyw gyfnither o bant i gadw cmwni i Luned, a chan 'i bod hi mor ddi-ddweud, doedd neb am ymyrryd gormod.

Doedd e dim ar gael yn y ddwy gêm gyntaf oherwydd anaf i'w ben-glin.

Doedd Sam ddim yn un o'r rhai clenia yn ei gwrw.

'Doedd o ddim yn cael cymaint o fwynhad yn y dyddiau olaf fel actor.

Doedd hi ddim yn fawr ond yr un siap a blaen main y Concord, a gellid gweld dwy injan turbo nerthol ar ei thin.

Casglai torfeydd bychain o'n cwmpas, a doedd dim prinder gwirfoddolwyr i gyfieithu.

Gan iddi basio'n syth drwodd, doedd 'na ddim posib astudio'r fwled ond fe gawson ni hyd i ddarnau bychain o'r metel ar y siaced.'

Doedd dim angen gofyn am gyfweliadau.

Dyna'r un erlynwraig, a doedd hi heb ddysgu Cymraeg.

"Mae gan bobol Pen'sarwaen," medda fi, "gystal hawl â neb i wybod faint o ffordd sydd yna i Lundan." Doedd ganddo fo ddim atebiad i hynny, ond mi lloriodd fi hefo peth arall.

Doedd hyn ddim am ennill ffrindiau i ni yn y Swyddfa Dramor, ond pa ots?

Doedd dim blodau ar y beddau, dim ar yr un ohonynt.

Doedd dim gwahaniaeth ganddo am ddim byd arall.

A doedd e ddim yn poeni rhyw lawer am ferched chwaith.

Doedd presenoldeb ein camerâu'n dychryn dim ar filwyr Israel.

Erbyn hyn, doedd neb yn poeni rhyw lawer am ei sefyllfa, a dyma ddiddanu ein hunain drwy ganu.

Doedd dim son am weddill y dosbarth.

Doedd dim ond dweud celwydd amdani: '...,' meddwn, '...' Fodd bynnag, dyma'r trên yn chwislo, a llawer yn gorfod gadael y ciw cantîn yn waglaw, y porteri yn galw ar i bawb frysio a dyma ni unwaith eto ar yr 'olwynion chwim'.

Doedd dim lliw yn ei hwyneb ac nid edrychai'n rhy iach.

Doedd dim hyd yn oed gi neu anifail yn crwydro'n ddiamcan rhwng y tai.

Doedd dim ots gen i bellach am ddim - ac ni phoenwn am ddod oddiar y lifft.

Doedd o ddim yn beth hygienic iawn am wn i.

Doedd y dyn yn ei gaban ddim yn gallu dod i'm helpu oherwydd bod fy nwy sgi wedi troi ar draws llwybr y lifft ac yn gorffwys ar ei ddrws fel nad agorai hwnnw!

Doedd Wil ddim ymhell o fod yn uniaith chwaith, - yn uniaith Gymraeg.

Doedd Joni ddim yn deall.

Doedd dim ysgol sgio heddiw, ond oherwydd prinder yr eira a amlder y rhew dyma benderfynu ymuno a dosbarth o ddechreuwyr.

Doedd aros yn rhy hir o dan onnen ddim yn beth da, fodd bynnag, gan fod ysbrydion yn tueddu i hoffi clwydo yn ei brigau.

Doedd hi ddim yn brofiad pleserus iawn eu gweld nw yn dal eu gynnau Kalaschnikov ad yn amlwg heb weld Gorllewinwr erioed o'r blaen.'

Doedd dim diben dweud na allai'r un joci ar wyneb daear ofalu bod pob ceffyl yn neidio'n berffaith bob tro ac yn enwedig hen gythraul croes a oedd wedi ei ddysgu'n wael.

Dylent fod wedi cael eu pedoli oriau ynghynt a doedd dim synnwyr iddyn nhw fynd gam ymhellach - fyddai ceffylau cloff yn dda i ddim i neb.