Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

does

does

Does yna ddim byd newydd ar Animal Instinct mewn gwirionedd.

Os mai gloddesta a gwario ydi'ch Nadolig chi, does 'na, a fydd 'na byth ronyn o wirionedd yn yr haeriad bod natur yn gallu dathlu hefyd.

Ond does dim dewis gen ti, fodd bynnag.

"On'd does rhyw helynt o hyd?

'Rydym wedi ein cyfiawnhau, felly 'does dim ots ein bod wedi pechu, a 'does dim ots am y canlyniadau.

Am gael gair efo Mr Rees cyn iddi agor, medda' fo." Does gen i ddim cystal trwyn a Snowt am stori, ond mae gen innau glust sy'n gwrando.

Does dim byd arbennig am hynny.

A 'does arna i ddim eisio bod yn rhy hy - ond gan ein bod ni wrthi hi, beth am y flwyddyn wedyn?' Tri chyhoeddiad ymlaen !

Does gan y darllenwr ddim ots beth fydd eu ffawd oherwydd eu bod mor debyg i gymeriadau llachar gêm compiwtar, ond efallai mai dyna'r bwriad.

A does dim sicrwydd ei fod ef yno chwaith.

`Does dim rhyfedd bod y cwn yn llawn cyffro,' meddai'r sarsiant.

Does dim digon o safleoedd sydd wedi eu bwriadu ar gyfer plant, ac felly dydy plant ddim yn gallu manteisio'n llawn ar y cyfrwng newydd.

Does dim budd na pharhad i'w ddisgwyl o'r fath ymdeithio.

Does dim dwywaith nad oedd y geiriau cryfion a ddefnyddiodd Symons wrth ddisgrifio'r ardal wedi rhoi ysgytwad go gryf i bawb a'u ddarllenodd ac a'u clywodd.

Does dim angen iti grio.

Na does dim angen neges.

yna dywedodd y wraig eto : does neb o'r enw lopez yma.

Trafodwch y syniad o "Long Ofod Ddaearol": mae Dyn yn ddibynnol ar yr adnoddau a'r harddwch sydd i'w cael ar y blaned hon; does gennyn ni ddim stôr ddiderfyn o'r pethau hyn.

Y ddihareb gyntaf y mae'r Kurdiaid yn ei dysgu i'w plant yw: 'Does gan y Kurd ddim ffrindiau.' Un o'r Kurdiaid enwocaf oedd Saladin, a fu'n ymladd dros Islam yn erbyn Richard the Lionheart, brenin Lloegr.

Does yna ddim hyd yn oed air Cymraeg am hynny ychwaith yng Ngeiriadur yr Academi ar wahan i camweithredol sydd ddim yn cyfleu'r un peth o gwbwl.

Does dim amheuaeth nad yw cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol wedi dylanwadu ar agweddau o fywyd pob ysgol - ac ar fywyd pob athro ac athrawes.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd mewn un gwely, ac mi fydden nhw'n gweiddi, "Rydw i bron _ syrthio o'r gwely!" "O, rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen i ddim digon o le!" "Does gen innau ddim digon o le chwaith!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn gallu cysgu'n gysurus, ac roedden nhw wedi blino'n l_n.

Does gennych chi ddim diddordeb yn y fferm Mr Jenkins, dim ond fel lle i wneud arian ohono.

Does arna i ddim isio mynd yn ôl i ganol Saeson eto." "Mae arna i ofn dy fod ti braidd yn hwyr yn meddwl am beth felly, 'ngwas i.

… ond does dim angen poeni, gan fod y gitâr flaen yn swnio llawn cystal – os nad yn well – ar y gân olaf, sydd yn ddiweddglo naturiol i'r EP.

Does dim agoriad arall i'r gorffennol hwnnw ond yr iaith.

Heno mae'r gêm bwysig a 'does dim dwywaith y bydd Iwcrain yn dipyn gwell tîm nag oedd Armenia.

Os yw'r llun yn dweud beth sydd eisiau'i ddweud does dim angen defnyddio geiriau" meddai.

Ond 'does dim capel i'w goffa/ u bellach er bod yr Achos yn dal i rygnu 'mlaen am ryw hyd yn y festri .

Doedd Nathan Blake ddim yn ymarfer gyda gweddill y chwaraewyr yn Stadiwm Daewoo Legia, Warsaw, neithiwr, ond does dim lle i boeni.

Does dim amheuaeth fod statws merched wedi gwella o dan Gadaffi.

A does yna neb yn codi bwganod am fygs mileniwm.

Mi faswn wedi rhedeg y bore yma, ond mae rhywbeth ar yr hen fuwch yma." "Tewch chitha." "'Does dim llawer o helynt.

Does yna ddim diben i unrhyw un wadu i ddatblygiad y sîn ddawns Gymraeg fod yn eithriadol o araf ac, yn sicr, mae yna le i wella eto.

'Does dim dwywaith amdani.

Ond er na dderbyniodd o mo'r ddeiseb i'w law, does dim dwywaith na chafodd o a'i bennaeth y neges yn gwbl glir.

Ond pa mor eang bynnag fo'r un ohonyn nhw neu pa mor ddyfn ac astrus bynnag, 'does yna yr un ohonyn nhw wedi mynd â lle Nedw.

Does gan y papura' Saesneg ddim diddordeb mewn arddangosfa o luniau nes bod rhywun wedi torri i mewn a lladrata un ohonyn nhw.

Does ond un ffordd i drin mygiwr.

Does dim plant ysgol i fod yn y ward, ond wir, fedrwn i byth eich gwrthod.

Does dim dadl na fu'r holl luniau a dynnwyd o'r newyn yn Somalia yn gyfrifol am achub bywyd miloedd o'i phobl.

Does neb creadigol yn nhîm Lloegr a maen nhw'n rhoir bêl i ffwrdd yn rhy hawdd oherwydd tempo a steil eu chware.

Does na ddim llawer o eiriau sy'n ddieithr i'r plant ac erbyn hyn rwy'n dueddol o ddefnyddio mwy o'r ffurfiau gogleddol.

Does gen i fawr o gof am wraig na phlant yr Hafod ond rwyf yn cofio'r gūr yn dda iawn.

'Does dim cynffon gan fresychen!' meddai.

Yn ôl Jan Morris, does neb sy'n fwy hyblyg wydn na'r Tseineaid, fel y tystia methiant yr ymerodraeth Brydeinig - hyd yn oed ar ei haruthredd mwyaf - i wneud fawr o argraff ar eu 'down-to-earth genius'.

Ond rhaid i ti gofio mai gwrachod yw Jini a Mini, a does dim llawer na allan nhw ddod o hyd iddo.'

Fel arfer, does dim gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddwy ran, ond heddiw mae yna rannu pellach.

'Does dim angen i chi gosbi Anti Meg o'n rhan ni ...

Mewn ffaith, does dim argoel bod llawer yn digwydd i fynd i'r afael a'r gwelliannau hollol angenrheidiol yn ardal y Bedol ond mae'r sefyllfa yn debyg i nifer o ardaloedd eraill yng nghefn gwlad Cymru.

Dowch, hogia, does dim i'w ennill wrth aros yma'n hwy.' 'Mi allem aros iddo ddod allan oddi yna,' meddai Iestyn.

Ym - o oes, mae'r iaith yn hwylus i'w ddarllen … a does dim peryg ichi ddatblygu DVT drwy ymgolli'n llwyr ynddo.

Does dim angen iti i roi o mewn geiriau.

Rydach chi'n deall y teimladau sy'n mynd trwyddyn nhw ond does yna ddim byd sy'n ddealladwy ichi o ran yr iaith.

Does yna ddim cofgolofn iddo.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Ac os methodd ambell un wneud ei farc ar lwyfan eisteddfodol 'does raid iddo boeni dim oll canys fe fydd yn bownd o raddio'n feirniad o'r radd flaena' mewn dim o dro.

Hyd heddiw does neb yn siŵr faint gafodd eu lladd yn ystod y pum mlynedd y buodd y Khmer Rouge yn rheoli.

Dim ond ambell adeilad sy'n dal i sefyll:mae ffrwydron cudd ym mhob man a does yna ddim dwr nac unrhyw gyfleusterau eraill.

Ond does dim golwg o'r gadwyn yn nhy Twm Dafis, ac nid oedd hi arno pan ddaliwyd o.

Does dim pwynt dweud wrth rywun am fynychu dosbarth unwaith yr wythnos am flwyddyn os ydy e neu hi am fod yn rhugl ar ddiwedd y flwyddyn honno.

Does neb ar ôl.

Does arna'i ddim eisiau troi eich stumogau gyda ffilm arswyd newydd sâl.

Dewch, brysiwch does gennym ddim amser i'w golli.

Does neb wedi egluron iawn sut y digwyddodd y newid hwn achos nid yw'r teitl gwreiddiol wedi ei newid yn y Ddeddf a greodd y Cynulliad.

Does na ddim un drama tu hwnt i Tony Jones ac i'r un a fentrodd fod yn feirniadol, estynnaf wahoddiad i'r Theatr i gyd-weithio hefo ni a gweld sut mae cyflawni gwyrthiau!

A does dim sicrwydd pwy fydd wrth y llyw bryd hynny.

Ond does wiw ichi holi beth yn union y mae'r lluniau yn ei olygu, oherwydd ni chlywodd y gofalwyr erioed am y Drindod, y Forwyn Fair, y Geni Gwyrthiol, y Swper Olaf ac yn y blaen.

Does yna ddim UN neges.

Yn ôl BNFL, perchnogion yr atomfa, does yna ddim rheswm i bryderu.

Mae'n rhaid i ti dderbyn yn y lle cyntaf mai dyna'r math o berson oedd Heledd; mae'n ffaith fod yna bobl sydd felly, a does dim llawer y gall neb ei wneud i'w helpu nhw." "Paid a siarad mor ddwl.

Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.

Ond rydyn ni'n cael ein siomi gyda'r bwyd; does yna ddim cyflenwad trydan yn Jijiga heno.

Does dim yn y ddinas, dim ond tywod - dim blodau, dim glaswellt na dim byd arall.

`Does dim modd ei weld e o fan hyn,' atebodd plismon, `ond mae e tua hanner ffordd i lawr ar silff fach.' `Y clogwyni hyn yw rhai o'r rhai gwaethaf yn y cylch,' meddai Reg.`Mae'r garreg yn briwsioni dim ond i chi edrych arni hi.

Wedi'r cyfan, does dim cymhelliad i'r bobl weithio'n ddiwyd, ac felly, yn naturiol ddigon, mae pawb yn symud wrth eu pwysau.

Does dim ymdrech wedi ei wneud i or-foderneiddio'r bwthyn.

'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.

Ond nawr, wedi ichi gael ryw hwb bach, does dim dal arnoch chi', chwedl Mona wrth iddo droi'n fwyfwy hyderus.

Hyd yn oed os yw'r syniad poblogaidd fod pedwar o bob pump o'r Cymry yn Anghydffurfwyr erbyn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn gorsymleiddio'r sefyllfa, does dim amheuaeth nad oedd yna deimlad cryf ymysg y mwyafrif fod grym Eglwys Loegr yn rhywbeth y dylid ei wrthwynebu.

Does dim eisio cloddio'n rhy ddwfn i'w darganfod.

"Gyda rhai o'r plant yma, does yna neb adref i'w disgwyl o'r ysgol felly maen nhw'n dod yma i ladd amser nes bydd eu rhieni wedi noswylio o'u gwaith," eglurwyd imi.

Ond mae o wedi bod yn glên iawn wrtha i ų 'does gen i ddim isio bod yn anniolchgar.

Does ond angen cymharu'r penillion gyda'r cytgan am brawf o hynny.

Ond o fy mhrofiad anffodus i o feddygon ac ysbytai does a wnelo lliw eu croen fawr ddim ag anallu rhai meddygon i gyfathrebu a defnyddio gair yr adroddiadau diweddar.

Does dim isio i chi roi dim byd.

Ond ar hyn o bryd does gan Y Barri ddim golwr ar gyfer y gêm.

Dyma Rafe (Ben Affleck) a Danny (Josh Hartnett) sydd, does dim rhaid dweud, yn tyfu'n ffrindiau mynwesol ac ymhlith awyrenwyr gorau yr Unol Daleithiau.

Does dim byd gwaeth na chariad sy wedi troi'n gasineb, ac fe wyddost ti gymaint roedd hi'n ein casau ni'n dau erbyn y diwedd.

Os ydych yn hoffi casglu ffosiliau does dim gwell craig na'r Garreg Galch yma ger Bwlch Kate Anthony sy'n llawn o'r crinoid bychan ac o'r cwrel Caninia, Lithostrotion, Cyringopora a Michelina, heb sôn am y braichiapod a'r gostropod (Bellerophon a Euromphalus).

Erbyn heddiw, a'r pwyslais o ran cynhyrchu wedi symud i'r sector annibynnol, does dim strwythur o'r fath yn bod mewn maes lle mae llafur achlysurol yn rhan annatod o natur y brodwaith.

Does gyda nhw na phwyllgor na pholisi i ddelio â'r maes enfawr yma.

Rydw i'n gwybod yn union sut rai ydyn nhw bellach a does dim angen i ti boeni.

Ar adegau eraill, does yna ddim amheuaeth fod y gwrthbleidiau wedi rhoi corcyn ym mlaen y baril wrth danio at weinidogion fel Peter Walker neu, am gyfnod, David Hunt.

Does dim angen dweud mwy.

Mae pawb yn gwybod yn iawn pryd i stopio yfed - does byth ddim meddwi yn y Wladfa.

'Does dim byd mwy annymunol na gwled cenedlaetholwyr Seisnig ar gefn eu ceffyl.

'Dan ni'n cynnig rysetiau iddyn nhw, achos does dim pwynt mewn ymarfer heb fwyta'n fwy gofalus, a vice versa wrth gwrs.'

Ceisiwch chi egluror gwahaniaeth rhwng guidlines a guidance achos does yna ddim mwy nag oes yna rhwng Rules a Regulations er y bun rhaid i ni fathur gair gwirion rheoliadau er mwyn inni fedru dweud, Rheolau a Rheoliadau fel y Saeson.

Am eu bod ar wasgar yn Iraq, Iran, Twrci, Syria a'r Undeb Sofietaidd, does neb yn siwr beth yw eu nifer.